Caerdydd: Blwch post yn llongyfarch Lloegr yn codi gwrychyn

  • Cyhoeddwyd
Blwch post CaerdyddFfynhonnell y llun, @indywalesfans
Disgrifiad o’r llun,

Sticeri o blaid annibyniaeth wedi'u rhoi ar flwch post yng Nghaerdydd

Mae blwch post yng Nghaerdydd, sydd wedi'i baentio'n wyn i ddathlu llwyddiant tîm criced Lloegr, wedi ennyn ymateb chwyrn.

Cafodd un o'r blychau ar Heol y Frenhines ei baentio i nodi buddugoliaeth Lloegr yng Nghwpan Criced y Byd fis diwethaf.

Roedd yn cynnwys y geiriau "Llongyfarchiadau Criced Lloegr".

Ond mae'r blwch post bellach wedi cael ei orchuddio gyda sticeri sy'n arddel annibyniaeth i Gymru.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Gareth Roberts

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Gareth Roberts

Er bod y mwyafrif yn cyfeirio at y tîm fel Lloegr, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECCB) ydy'r corff sy'n ei gynrychioli.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae llawer wedi galw ar y geiriad i gael ei newid er mwyn cynnwys Cymru, ond mae eraill wedi wfftio'r galwadau, gan ddweud y dylai llwyddiant y tîm gael ei ddathlu.

Enillodd Lloegr Cwpan y Byd y dynion fis diwethaf i ychwanegu at deitl y menywod a enillwyd yn 2017.

Cafodd rhai gemau yn y gystadleuaeth eu cynnal yng Ngerddi Soffia, Caerdydd.

Yn dilyn hynny, cyhoeddodd y Post Brenhinol y byddai'n trawsnewid 15 blwch post ger lleoliadau wnaeth gynnal gemau eleni.