Carcharu dyn am 18 mis am ddwyn gwn Taser
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth ddwyn gwn Taser oddi wrth blismon wedi cael ei garcharu am 18 mis.
Roedd Barry John Roberts, 37 oed, wedi pleidio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol i ddwyn ac o fod ag arf gwaharddedig yn ei feddiant.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon nad yw'r gwn Taser wedi dod i'r fei ers y digwyddiad.
Wrth ddedfrydu Roberts, dywedodd y Barnwr Huw Rees: "Mae'r potensial i gamddefnyddio'r arf yma yn fater o bryder mawr."
Digwyddodd y lladrad wedi i heddwas - oedd ddim yn gwisgo lifrau - geisio archwilio dyn arall ar Stryd Fawr Bangor ar amheuaeth o gamddefnyddio cyffuriau.
Dechreuodd sgarmes wrth i dorf ymgynnull.
Mae lluniau CCTV yn dangos y diffynnydd yn codi'r gwn Taser a cherdded i ffwrdd.
Dywedodd bargyfreithiwr Roberts wrth y llys nad oedd ei gleient "yn meddwl ar y pryd" a'i fod dan ddylanwad meddyginiaeth.
Honnodd iddo guddio'r gwn Taser y tu ôl i dafarn yn y ddinas.
Cafodd gwain a chetris y gwn Taser eu darganfod yn ddiweddarach mewn eiddo yng Nghaernarfon lle'r oedd y diffynnydd yn aros o bryd i'w gilydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd12 Mai 2018