Hyfforddi mwy o blismyn i ddefnyddio gwn Taser
- Cyhoeddwyd
Mae un o heddluoedd Cymru wedi cadarnhau bydd dwbl y nifer o blismyn yn derbyn hyfforddiant i ddefnyddio gwn taser, yn dilyn cynnydd mewn gangiau cyffuriau sy'n cario arfau.
Dywedodd Heddlu De Cymru y byddai 281 swyddog yn ychwanegol yn derbyn hyfforddiant dros y 12 mis nesaf, i gynyddu nifer y staff sydd wedi'i hyfforddi o 10% i 20%.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad gan y llu i'r ffyrdd gorau i swyddogion ddiogelu eu hunain a'r cyhoedd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent hefyd yn hyfforddi mwy o staff, tra bod Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod 175 o'u swyddogion wedi eu hyfforddi i ddefnyddio taser.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael: "Mae defnyddio Taser yn aml yn cael ei gamddeall.
"Os yw'n cael ei ddefnyddio'n gywir, mae'n golygu arbed anaf yn hytrach nag achosi anaf.
"Rwy'n hyderus fod y defnydd o'r Taser gan ein swyddogion yn gymesur ac yn atal anafiadau'n aml."
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan: "Ar gyfartaledd mae 'na ymosodiad ar naw swyddog heddlu yn ne Cymru pob wythnos, sy'n cynnwys poeri, cicio, brathu a tharo.
"Yn ychwanegol, rydym yn ymwybodol o dwf mewn gangiau sy'n gysylltiedig â chyffuriau sy'n cario arfau.
"Rydym yn bwriadu bod yn barod os yw'r patrymau yma am gael effaith gynyddol yn ein hardal," meddai.
'Sialensau cynyddol'
Dywedodd y llu nad ydyn nhw'n rhagweld byddai yna gynnydd yn y defnydd o'r Taser.
Y llynedd fe gafodd y Taser ei dynnu allan ar 227 achos ond dim ond 16 o weithiau gafodd ei danio.
Mae 300 o swyddogion i'w gymharu â 240 bellach wedi'i hyfforddi i ddefnyddio Taser yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod hefyd wedi cynyddu'r nifer o swyddogion arbenigol sy'n cael defnyddio Taser.
Mae hyn, medd y llu, yn "cyd fynd â sialensiau cynyddol sy'n wynebu'r heddlu," ond doedd dim modd iddyn nhw ddatgelu'r union ffigwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd12 Mai 2018