Dyn ag anafiadau difrifol iawn wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
car heddlu

Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A5 yn Sir Ddinbych lle cafodd dyn anafiadau difrifol iawn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Mini Cooper a fan Mercedes am tua 22:56 nos Iau, 1 Awst, ar y lon rhwng Llangollen a Glyndyfrdwy.

Cafodd y dyn yn ei 30au oedd yn teithio yn y Mini ei gludo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai difrifol iawn.

Man anafiadau gafodd y fenyw oedd yn gyrru'r Mini.

Mae gyrrwr y fan wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.

Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a welodd y fan yn cael ei gyrru ar hyd yr A5 rhwng Y Waun a Glyndyfrdwy am tua 22:20 i gysylltu â ni."

Gall pobl gysylltu â'r heddlu gyda gwybodaeth neu luniau dash-cam drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 19100423875.