Arestio dau wedi digwyddiad yn Nhredegar fore Gwener

  • Cyhoeddwyd
Stryd y CastellFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd y Castell am tua 00:55 fore Gwener

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn Nhredegar yn oriau mân fore Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd y Castell, Tredegar am tua 00:55 yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch.

Cafodd y dyn lleol 21 oed ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol i'w ben.

Mae dau ddyn, 22 a 28 oed, o ardal Tredegar bellach wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac yn parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu Gwent wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.