Y Bencampwriaeth: Wigan Athletic 3-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gary MadineFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli wnaeth Caerdydd yn eu gêm gyntaf nôl yn y Bencampwriaeth a hynny ar ôl bod ar y blaen yn erbyn Wigan Athletic.

Roedd Joe Ralls ychydig yn ffodus i fod dal ar y cae ar ôl tacl gynnar flêr, ond ei gôl o wedi 20 munud wnaeth roi Caerdydd ar y blaen.

Fe wnaeth Josh Windass fethu cic o'r smotyn i Wigan yn gynnar wedi'r egwyl ond ar ôl hynny fe roddodd y cyfle i Michael Jacobs ddod a'r sgôr yn gyfartal.

Ar ôl 63 munud sgoriodd Windass i roi Wigan ar y blaen.

Daeth Omar Bogle, cyn ymosodwr Wigan, i'r cae fel eilydd gan sgorio i'r ymwelwyr.

Ond ergyd y Cymro Lee Evans o Gasnewydd, wedi 75 munud, wnaeth sicrhau'r pwyntiau i'r tîm cartref.