Teithio efo plant… Hwyl neu hunllef?

  • Cyhoeddwyd
Rhiannon a'r teulu wedi mentro i fwynhau'r haul yn ZanteFfynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon a'r teulu yn mwynhau'r haul yn Zante

Mae'r flogwraig Rhiannon Boyle o Gaerdydd wrth ei bodd yn dianc i'r haul, er gwaetha' ambell i brofiad anffodus ar hyd y daith.

Yma, mae hi'n ysgrifennu am ei hanturiaethau yn teithio gyda'i gŵr a'i merched Elsi a Magi cyn iddi fentro i Lyn Garda yn yr Eidal yn fuan.

'Sa mhlant i'n hapus yn aros adra' drwy'r haf yn gwylio Netflix neu chwara' ar y Wii efo ambell i drip i lan môr. Fysa'r gŵr hefyd. Tydi o ddim yn licio mynd ar wylia' oherwydd - 1) Y teithio. 2) Methu dallt be ma' bobol yn 'i ddeud. 3) Dim syniad faint ma' dim byd yn 'i gostio.

Ond dim fi. Dwi wrth fy modd yn mynd ar wylia' - bob haf - i rwla heulog. Dwi'n licio ymlacio a threulio amsar efo'r rhai dwi'n garu. Dwi'n licio'r antur. Licio darganfod gwlad a diwylliant newydd. Dwi'n licio'r haul, y nofio a'r bwyd.

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau wedi cyrraedd y pwll nofio

Hunanol? Falla.

Felly be' am y teithio? Ydi cyrraedd pen siwrna mewn gwlad estron yn hunllef? Weithia'. Fel yr amser nathon ni golli'r Eurotunnel a gorfod hongian o gwmpas yn nhwll din y byd - Folkestone - am ryw wyth awr efo dau o blant o dan dair oed. Doedd hynny ddim yn hwyl.

A be' am y ffordd adra' pan oeddan ni yn ein car, tu mewn i'r twnnel crasboeth, a darganfod fod y trên 'di gael 'i ohirio. Oeddan ni'n styc am oria, ac fe fwytodd y fechan llond bag masif o raisins, a nath hynny iddi lenwi'i throwsus. Oedd 'na ddim awyr iach yn y car fel oedd hi, ond doedd be' oedd ar ôl, ddim yn ffit i gael ei anadlu, yn sicr.

Ar goll

A be' am gyrraedd Portiwgal un tro, a thrio ffeindio'r Airbnb a darganfod fod y cod post yn rong. Dyma'r sat nav yn cymryd ni i ganol nunlla a dweud 'You have reached your destination.' O'dd hi tua hanner nos a'r host ddim yn ateb, a'r plant yn cysgu yng nghefn yr hire car. O'n i mewn panig llwyr a'r gŵr yn andros o flin. Munud nesa' ddoth 'na ddynes - o'dd ddim yn siarad gair o Saesneg - allan o ryw fferm a thrio ca'l ni i gyd i gysgu yn ei thŷ hi am y noson. Nightmare.

So ocê, ma'r teithio yn gallu bod yn bach o strach.

Ond siawns bod yr haul hyfryd 'na'n gneud i fyny am y holl straen? Wel, dim rili. 'Da chi'n gweld, dwi ddim efo'r math yna o blant sy'n mynd yn frown fatha cnau yn yr haul. Mae rhai fi yn wyn fath â'r galchen a ma' nhw'n llosgi. Sy'n golygu brwydro efo nhw bob rhyw bedair awr er mwyn plastro nhw efo ffactor 50.

Erbyn meddwl 'dy nhw ddim yn rili licio tywydd crasboeth. Ma' nhw'n chwysu lot. A mynd yn goch. Ac yn flin. A ma'r gŵr yr un peth.

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon gyda'r merched yn mwynhau'r haul

'Dy nhw ddim 'chwaith yn ymdopi efo'r newid mewn amsar. Nag yn licio gwylio SpongeBob SquarePants yn Sbaeneg, er i mi drio eu perswadio nhw. A ma' nhw'n strancio'n ofnadwy mewn bwytai oherwydd dy' nhw ddim yn cîn ar fwydydd egsotig fatha calamari, a 'da ni'n gorfod bwydo nhw efo pizza bob nos. A 'di hynny ddim hyd yn oed yn garantîd achos - yn ôl nhw - ma hwnnw yn gallu 'blasu yn weird', ac...

O diar… ella fod y gŵr yn iawn. Well i fi fwcio i fynd ar ben fy hun tro nesa'.

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Elsi a Magi, wedi pacio ac yn barod am y daith

Cyngor

Ond o ddifri', os ydach chi yn teithio efo plant haf 'ma, dyma bump tip gen i i neud bywyd dipyn bach yn haws:

  1. Ewch â digon o betha' i'w diddanu nhw ar y daith - lliwio, gemau, llyfrau ac ati. Gwnewch yn siŵr fod y pethau yma'n newydd sbon ac felly yn fwy cyffrous. Os ydy pob dim arall yn methu - cyfrifiadur tabled amdani.

  2. Ewch â snacs eich hunain, peidiwch â dibynnu ar y rhai 'da chi'n prynu ar yr awyren, trên neu gwch achos ma' nhw'n llawn siwgr a ma' trio cadw plentyn mewn sêt ar ôl bag o Haribo fatha trio rhoi cath mewn bath. Creision, craceri neu ffrwythau sydd orau.

  3. Lawrlwythwch raglenni neu ffilmiau iddyn nhw wylio pan 'da chi ar eich gwyliau. Ocê, ocê ma' gwyliau i fod yn ffordd i ddianc y teclynnau modern 'ma, ond mae fy mhlant i yn blino ar y nofio a'r haul erbyn hwyr y pnawn a weithia 'ma' nhw jest angen chill a ma' hynny'n ffain.

  4. Peidiwch â phoeni os ma' nhw ond yn byta pizza pan ma' nhw allan, neu os ma' nhw'n sglaffio doughnuts o'r buffet brecwast bob bora. Digon o ffrwythau rhwng prydia' a wnawn nhw ddim marw.

  5. Dysgwch y plant i ddweud helo / diolch / hwyl fawr ym mha bynnag iaith ma' nhw'n siarad yn y wlad 'da chi ynddi. Ma'r locals wrth eu bodd efo hyn a mae hyd yn oed y gweinyddion mwya' sych yn toddi ac yn dechra bod yn glên.

Pob lwc, bon voyage a mwynhewch!

Hefyd o ddiddordeb