Eisteddfod Sir Conwy: Diwrnod seremoni Gwobr Daniel Owen
- Cyhoeddwyd
Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ddydd Mawrth.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Os fydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000.
Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen yw beirniaid y gystadleuaeth eleni, sydd wedi denu wyth o ymgeision.
Ross a Susan Morgan, Llanrwst yw noddwyr y fedal eleni.
Mae £3,500 o'r wobr ariannol yn rhodd er cof am Olwen Mai Williams o Gwm Penmachno gan ei theulu.
Mae Gwasg Carreg Gwalch hefyd wedi cyfrannu £1,000 ac mae Ymddiriedolaeth D Tecwyn Lloyd wedi cyfrannu £500.
Mari Williams o Gaerdydd ddaeth i'r brif yn y gystadleuaeth y llynedd gyda'r nofel 'Ysbryd yr Oes'.
Sioe gerdd Te yn y Grug - addasiad Cefin Roberts, Karen Owen ac Al Lewis o gyfrol enwog Kate Roberts a gafodd ei chyhoeddi union 60 mlynedd yn ôl - fydd yn y pafiliwn nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2018