Mari Williams yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
- Cyhoeddwyd
Mari Williams o Gaerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm ddydd Mawrth.
Cafodd ei geni yn y brifddinas ac fe dderbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd y Merched yno, ac yna yng Ngholeg Newnham, Prifysgol Caergrawnt.
Ar ôl graddio â gradd anrhydedd yn y Clasuron bu hi'n athrawes mewn nifer o ysgolion gan gynnwys Ysgol Brynrefail, Ysgol Cwm Rhymni ac Ysgol Rhydfelen.
Ar hyn o bryd mae hi'n addysgu Lladin i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Tasg y 10 a ymgeisiodd am y wobr eleni oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, gyda'r wobr ariannol yn rhodd gan CBAC i nodi 70 mlwyddiant sefydlu ei ragflaenydd, Cydbwyllgor Addysg Cymru yn 1948.
'Eisin ar y deisen'
Wrth siarad gyda Cymru Fyw yn dilyn y seremoni, dywedodd Mari Williams bod ennill yng Nghaerdydd, yr ail o'r brifddinas i gipio un o'r prif wobrau yr wythnos hon, yn "eisin ar y deisen".
"Dwi wedi bod yn nerfus ac yn poeni, ond pan ddigwyddodd y foment ro'n i'n berffaith iawn," meddai.
"Dwi'n credu bod y gefnogaeth mae rhywun yn teimlo ymysg y gynulleidfa yn cario chi drwodd."
Ychwanegodd fod John Penry wedi bod yn "arwr" iddi ers iddi ddarllen amdano yn yr ysgol, a'i bod wedi "addo i fi fy hun y buaswn i'n sgwennu rhywbeth iddo fo rhyw bryd".
"Mi oedd o eisiau i bobl Cymru gael yr Ysgrythur a phregethwyr [yn y Gymraeg], ac roedd yr awdurdodau'n gyndyn iawn i ganiatáu hynny," esboniodd.
"Fe wnaeth o dalu am hynny efo'i fywyd, roedd o'n gwybod fod o'n mynd i gael ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth.
"Dyna oedd John y gorffennol, ac ro'n i'n meddwl y byddai'n ddiddorol iawn gwneud cymhariaeth gyda John modern a dangos pa mor wahanol yw bywyd heddiw i beth oedd yn y gorffennol.
"Ac hefyd cymaint 'dan ni mewn dyled i bobl fel John Penry am yr holl iawnderau a hawliau mae pobl fel fo wedi bod yn brwydro drosto."
'Dwy stori gyfochrog'
Y beirniaid oedd Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles, ac wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Meinir Pierce Jones: "Yn 'Doe a Heddiw' gan 'Ysbryd yr Oes', adroddir dwy stori'n gyfochrog: hanes John Penry, Cefn Brith Sir Frycheiniog, y Piwritan, a hanes cyfoes John Williams, athro Hanes mewn ysgol uwchradd yng nghyffiniau Caerdydd - ar adegau o greisis ym mywyd y naill a'r llall.
"Mae hon yn nofel uchelgeisiol a deallusol wrth i'r awdur - 'cyfarwydd penigamp' ym marn Gareth Miles - bendilio rhwng y ddwy stori, gan dynnu sylw'r darllenydd ystyriol at y gwrthgyferbyniadau a'r tebygiaethau rhyngddynt.
"Fel y dywed Bet Jones, ceir yma waith a fydd yn 'procio'r meddwl ac yn ysgogi trafodaeth' ac un rheswm creiddiol am hynny, ydi fod yr awdur yma wedi deall mai proses ydi hanes, a dyna i chi fan cychwyn diddorol i unrhyw drafodaeth.
"Amser a ddengys sut dderbyniad a gaiff y nofel hon; yn sicr mae'n rhoi i ni ddarlun o gyfnod o'n gorffennol a dyn o bwys o'n gorffennol a golwg anghyfforddus hefyd ar ein cymdeithas gyfoes ni. Yn John Williams, cawn arwr annhebygol i'n hoes a'n ffordd o fyw."
'Nofel gynnil, grefftus ac amserol'
Ychwanegodd Meinir Pierce Jones: "Llwyddodd y tri ohonom i gytuno - yn gyntaf, fod teilyngdod eleni yng Nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, ac yn ail mai'r sawl sy'n ennill y wobr honno, am ei nofel gynnil, grefftus ac amserol ydi 'Ysbryd yr Oes' am ei nofel 'Doe a Heddiw'.
"Ond rhag i chi ddrysu pan ewch i chwilio am eich copi ar y Maes yn syth ar ôl y seremoni hon, cystal egluro rŵan, fod yr awdur bellach wedi rhoi ei ffugenw'n deitl ar ei nofel - 'Ysbryd yr Oes', felly ydi ffugenw a theitl nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, sy'n rhoi ystyr newydd i wneud y dwbl."
Mae Mari Williams wedi ysgrifennu wyth nofel ar gyfer gwahanol oedrannau, ac mae hi'n hoff o deithio ac ymweld â lleoliadau hanesyddol. Mae hi'n weddw i'r diweddar Barchedig William Elwyn Lloyd Williams o Abererch, yn fam i Geraint a Delyth ac yn fam-gu i Huw, Nia, Manon a Geraint-Dewi.
Doedd yna ddim teilyngdod yn y gystadleuaeth y llynedd er i'r gystadleuaeth ddenu 13 nofel - y nifer uchaf i'w derbyn yn y gystadleuaeth ers ei sefydlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018