Brexit am 'gynyddu argyfwng ail gartrefi' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd ac academydd blaenllaw wedi rhybuddio y gallai Brexit gynyddu'r argyfwng ail gartrefi yn rhai o ardaloedd Cymru.
Yn ôl Dr Seimon Brooks fe allai gwanhau'r cysylltiadau ag Ewrop arwain at fwy o bobl ym Mhrydain i "feddwl am y cyrion Celtaidd... fel llefydd egsotig ond cyfarwydd" i fynd ar wyliau neu ymddeol.
Dywedodd y gallai hynny yn ei dro arwain at waethygu'r sefyllfa mewn llawer o ardaloedd yng ngogledd a gorllewin Cymru ble mae canrannau uchel o dai eisoes yn ail gartrefi.
Mae wedi galw am fabwysiadu polisïau tebyg i rai ardaloedd yng Nghernyw, ble mae gan drigolion lleol fwy o ddylanwad ar bolisïau cynllunio i atal tai haf newydd rhag cael eu hadeiladu.
Osgoi trethi?
Mewn sgwrs ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, dywedodd Dr Brooks y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd gael effaith fawr pe bai hynny'n arwain at lai o Brydeinwyr yn teithio neu fyw dramor.
"Fe fyddan nhw'n dechrau meddwl am y cyrion Celtaidd, llefydd fel Cymru, Cernyw, hyd yn oed yr Hen Ogledd yn Lloegr, fel llefydd egsotig ond cyfarwydd [i fyw]," meddai.
Ar hyn o bryd mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu i godi trethi ar ail gartrefi os ydyn nhw'n dymuno.
Ond gyda phryder bod nifer gynyddol o berchnogion ail dai yn eu cofrestru fel busnesau er mwyn osgoi'r trethi hynny, dywedodd Dr Brooks bod angen gallu gwneud mwy.
Gallai hynny olygu dilyn esiampl Cernyw, ble mae penderfyniadau cynllunio wedi cael eu datganoli i gynghorau tref a chymuned, a hwythau yn eu tro yn gallu cyflwyno rheolau llymach ar ail gartrefi.
"Os 'dych chi'n cael caniatâd i godi tŷ newydd, cheith hwnnw ddim bod yn dŷ haf - mae'n rhaid i chdi fyw yno'n barhaol," meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Mae hyn yn rhywbeth 'dyn ni ddim wedi gwneud yng Nghymru hyd y gwela' i."
'Sgandal'
Ychwanegodd y byddai modd edrych ar y posibiliad o gyflwyno amodau tebyg i dai presennol sy'n cael eu gwerthu, ond y byddai angen sicrhau nad yw hynny'n effeithio ar werth tai pobl leol.
"Dwi'n amau yn y dyfodol y bydd yn rhaid i ni gael cyfuniad yng Nghymru," meddai.
"Bydd angen i ni gael elfen o ddefnyddio trethi ychwanegol gan gynghorau sir, a chodi hynny hyd yn oed, ond byddai hefyd angen defnyddio system gynllunio yn lleol."
Wrth gyfrannu at y drafodaeth ar y maes dywedodd AC Plaid Cymru, Siân Gwenllian ei fod yn "sgandal o'r radd flaenaf" bod perchnogion ail gartrefi yn gallu eu cofrestru fel busnesau bach, ac felly'n osgoi treth cyngor a threth busnes.
Ychwanegodd y gallai gefnogi rheolau fyddai'n rhoi "cap ar nifer yr ail gartrefi mewn ardaloedd penodol".
Ond rhybuddiodd na fyddai datganoli penderfyniadau o'r fath i gynghorau tref a chymuned yn gweithio os nad ydyn nhw i gyd yn gweithredu rheolau newydd yn effeithiol ac ar y cyd.