Dyn wedi marw 'tra'n achub ei blant o'r môr'

  • Cyhoeddwyd
Borth-y-gest
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y dyn i drafferthion ger arfordir Borth-y-gest brynhawn Llun

Mae dyn 45 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Gwynedd ddydd Llun.

Y gred yw bod y dyn o Fanceinion wedi mynd i drafferthion yn y dŵr wrth geisio achub ei blant.

Cafodd y dyn ei dynnu o'r dŵr gan aelodau'r cyhoedd ym Morth-y-gest ger Porthmadog tua 15:30.

Fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond bu farw'n ddiweddarach nos Lun.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau iddyn nhw dderbyn adroddiad o berson yn y dŵr am tua 16:00, a bod criwiau achub o Gricieth wedi eu gyrru i'r digwyddiad.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans hefyd eu galw i'r digwyddiad.

Rhybuddio ymwelwyr

Dywedodd llygaid dystion eu bod wedi gweld dyn yn cael ei sgubo i ffwrdd gan gerrynt cryf wrth iddo geisio achub ei ddau o blant.

Fe neidiodd y dyn fewn ar ôl ei ferch 12 oed a'i fab 6 oed ar iddo sylwi eu bod mewn trafferthion.

Fe lwyddodd y dyn i gyrraedd ei fab cyn i'r ddau gael eu llusgo rownd ymyl craig.

Cafodd y dyn ei gario o'r môr yn anymwybodol gyda'i fab yn gafael ynddo.

Mae pobl leol yn galw am arwyddion i gael eu gosod er mwyn rhybuddio ymwelwyr am beryglon y môr.