'Unfed awr ar ddeg' i'r iaith Gymraeg ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Heledd Gwyndaf
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heledd Gwyndaf o Gymdeithas yr Iaith fod hi'n "unfed awr ar ddeg" i'r iaith ar-lein

Mae angen "normaleiddio" cynnwys Cymraeg digidol i osgoi colli'r iaith, yn ôl ymgyrchwyr.

Dywedodd Heledd Gwyndaf o Gymdeithas yr Iaith fod hi'n "unfed awr ar ddeg" i'r iaith ar-lein.

Cymharodd yr her o wella'r arlwy digidol i gyfieithiad y Beibl i'r Gymraeg a datblygiad y wasg brintiedig.

Mewn digwyddiad ar faes y brifwyl fe gyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur yn cynnig sefydlu menter iaith ddigidol.

'Brwydr'

Dywedodd Heledd Gwyndaf, sy'n gadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith, bod arferion pobl ifanc wedi gwneud hi'n gyfnod tyngedfennol i'r iaith.

"Os ydyn ni am i'r Gymraeg i fyw, mi allai hi fod yn unfed awr ar ddeg," meddai.

"Mae mor bwysig â chyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg a datblygu'r wasg brintiedig.

"A fyddwn ni yn edrych nôl mewn can mlynedd a dweud dyna sy wedi achub y Gymraeg, neu dyna lle gollon ni'r frwydr? Hynny yw, yn y byd digidol."

Disgrifiad o’r llun,

Owen Evans yw Prif Weithredwr S4C

Dywedodd Ms Gwyndaf bod arferion pobl ifanc yn golygu eu bod yn troi fwyfwy at wefannau megis YouTube ac yn gwylio cynnwys uniaith Saesneg.

"Mae eisiau edrych i weld beth sydd yn digwydd yna, beth sydd ddim yn digwydd yna, a beth yw'r atebion i symud ymlaen i sicrhau bod deunydd Cymraeg yn cael ei weld gan ein plant, ni a'n pobl ifanc ni, a phobl o bob oed."

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith fyddai menter iaith ddigidol yn gyfrifol am:

  • Ymchwilio i'r mynediad a'r cynnwys presennol, ymchwilio i'r angen a chreu cynnwys;

  • Cynnal a chreu llwyfannau newydd i gynyddu presenoldeb y Gymraeg ar-lein

  • Gwella ymwybyddiaeth ymhlith unigolion, grwpiau a sefydliadau o beth sydd eisoes ar gael ac a fydd ar gael.

Mewn digwyddiad arall ar y maes fe ddywedodd prif weithredwr S4C, Owen Evans, bod angen apelio at ystod eang o'r gynulleidfa gyda chynnwys digidol.

Ar ôl cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ar stondin Dyfodol i'r Iaith, dywedodd Mr Evans wrth BBC Cymru: "Dwi'n credu bod y cyfrwng digidol i bawb.

'Sialens'

"Mae gwasanaethau digidol i bobl sy'n hŷn - hynach na fi hyd yn oed - hefyd mae faint o bobl sy'n gwylio yn ddigidol yn tyfu a thyfu."

Dywedodd bod y sianel draddodiadol dal yn bwysig iawn i'r gynulleidfa, ond bod mwy o gyd-gynhyrchu rhwng y sianel a'r llwyfan digidol ar y gweill.

"Y sialens i S4C yw dod â'r ddau at ei gilydd.

"'Da ni wedi comisiynu strand ble 'dan ni'n gofyn i amryw lwyfannau ddod at ei gilydd o gwmpas un pwnc o gynnwys."