Bwriad i godi 114,000 o dai newydd yng Nghymru erbyn 2040

  • Cyhoeddwyd
Llun artistFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd/Cartrefi Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd hyd at 40% o gartrefi newydd sy'n cael eu cynllunio ar gyfer Llanrhymni, Caerdydd yn dai cyngor

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu codi mwy na 100,000 o gartrefi newydd - llawer ohonyn nhw'n dai cyngor mewn mannau trefol - o fewn yr 20 mlynedd nesaf.

Nod fframwaith cynllunio newydd yw dangos lle mae angen i gartrefi, swyddi a gwasanaethau newydd fod erbyn 2040.

Mae'r cynigion hefyd yn nodi ardaloedd sy'n cael eu blaenoriaethu ar gyfer prosiectau ynni gwynt a solar ar raddfa fawr.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James, ei bod wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai cyngor "ar gyflymder a graddfa".

Dywedodd fod y cynigion - a amlinellwyd yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol - yn canolbwyntio ar ddatblygu mewn ardaloedd trefol gyda'r gred y byddai hyn yn ymledu a buddio cymunedau eraill.

Dywed y llywodraeth bod angen 114,000 o dai ychwanegol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf - gan gynnwys 3,900 o dai fforddiadwy neu dai cyngor pob blwyddyn.

Mae'r llywodraeth wedi neilltuo ardaloedd o gwmpas Wrecsam, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Llanelli fel llefydd all gael eu datblygu.

Dywedodd y llywodraeth y byddai ardaloedd gwledig yn gweld budd o well cyfathrebu digidol a mwy o lefydd pweru ceir trydan.

Mae hyn yn rhan o fwriad i leihau allyriadau carbon a gwella ansawdd yr aer.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie James y byddai'r llywodraeth yn canolbwyntio ar ardaloedd trefol ar gyfer y cynlluniau

Dywedodd Ms James ei bod am ganolbwyntio twf o amgylch trefi a dinasoedd presennol ond na fyddai'n anghofio am gymunedau gwledig.

"Mae angen y gorau o ddau fyd arnom - dinas sy'n arwain y byd yng Nghaerdydd, trefi marchnad ffyniannus ledled Cymru a chymunedau gwledig cynaliadwy gyda'r math o dai sy'n caniatáu i blant aros a gweithio yno."

Dywedodd Ms James, a gafodd ei magu mewn tŷ cyngor ei hun, mai'r broblem fwyaf oedd prinder tai cymdeithasol i'w rhentu, mewn cymunedau gwledig a dinasoedd.

Dywedodd ei bod wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai cyngor a mwy o dai fforddiadwy gan landlordiaid cymdeithasol eraill.

Mae digwyddiadau hefyd yn cael eu trefnu fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus.