Y Gymraeg i gael mwy o sylw wrth godi tai newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin am ei gwneud hi'n orfodol i ddatblygiadau o bump neu fwy o dai mewn ardaloedd gwledig orfod ystyried effaith y datblygiad ar y Gymraeg beth bynnag yw nifer y siaradwyr yno.
Cafodd cynnig i newid y polisi presennol ei gymeradwyo yn unfrydol gan y cyngor llawn ddydd Mercher, a bydd nawr yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd cadeirydd pwyllgor cynllunio'r sir, Alun Lenny, bod angen hyn oherwydd y "lleihad mawr ac annisgwyl yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir yng nghyfrifiad 2011".
Ar hyn o bryd mae'r arolygiaeth gynllunio yn ymchwilio i effaith datblygiadau tai ar yr iaith mewn cymunedau yn y sir lle bod yna 60% neu fwy o siaradwyr Cymraeg.
Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd 43.9% o boblogaeth Sir Gâr yn siarad Cymraeg.
Dywedodd un arall o gefnogwyr y cynnig, y cynghorydd Cefin Campbell, byddai angen ystyried yr iaith mewn ardaloedd trefol gyda datblygiadau o 10 neu fwy o dai "beth bynnag yw canran y siaradwyr Cymraeg".
Cafodd y trothwy o 60% ei osod yn 2014 ac mae'n effeithio ar bum allan o 58 o wardiau'r sir - Llanon, Pontyberem, Gorslas, Gwter Bach a Phencarreg.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru TAN 20 yn dweud y dylai Cynllun Datblygu Lleol awdurdodau Cymru roi ystyriaeth i effaith datblygiadau cynllunio ar yr iaith.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Sir Gâr y bydd dros 900 o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu, dolen allanol yno dros y 10 mlynedd nesaf, mewn buddsoddiad gwerth £150m.
'Help i gyrraedd y miliwn'
Yn ôl Mr Lenny dyw'r canllawiau presennol ddim yn mynd i ddigon o fanylder nac yn gosod peirianwaith ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am wneud asesiad o effaith unrhyw ddatblygiad ar yr iaith.
"Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar y Cynllun Datblygu Lleol, cynllun fydd yn penderfynu ar ein polisi cynllunio tan tua 2033," meddai
"Os rydym am i hyn gael ei gynnwys fel rhan effeithiol yna bydd angen i Lywodraeth Cymru ein helpu i osod canllawiau er mwyn cynnal asesiad o effaith datblygiad ar yr iaith. Dyw hynny ddim ar gael nawr.
"Pe bai nhw o ddifrif ynglŷn â'u targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 yna mae cynllunio ynghyd ag addysg yn ffactor allweddol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dylai pob awdurdod cynllunio lleol ddefnyddio tystiolaeth i benderfynu ar eu strategaeth a'u polisïau datblygu.
"Mae TAN 20 yn darparu syniadau ac awgrymiadau ar gyfer y math o dystiolaeth y gellid ei defnyddio, ond mater i'r awdurdod cynllunio lleol yw penderfynu beth sy'n berthnasol yn lleol gan mai nhw sy'n adnabod eu hardal orau.
"Rydym yn awgrymu fod asesiadau effaith iaith yn cael eu defnyddio pan fo datblygiad yn annisgwyl ac yn syrthio y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol."
Yn y blynyddoedd diwethaf mae Mr Lenny yn cyfeirio at ddatblygiadau sylweddol fel yn ardal Penybanc, ger Rhydaman, lle mae 54.4% yn siarad Cymraeg, ond lle nad oedd yr effaith ieithyddol wedi cael digon o ystyriaeth.
Yn ôl Mr Campbell, aelod o Fwrdd Gweithredol y sir sydd â chyfrifoldeb am gymunedau a materion gwledig, mae'r polisi newydd yn cyd-fynd â tharged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn achos datblygiad Penybanc dywedodd: "Ar y pryd ro'n i'n gwrthwynebu, a'r iaith oedd un o'r rhesymau, ond doedd yr ardal ddim yn cyrraedd y trothwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod yn croesawu trafodaeth Cyngor Sir Gâr am bwysigrwydd y Gymraeg ym maes cynllunio.
"Rydym yn obeithiol y bydd modd i Sir Gaerfyrddin arwain y ffordd i weddill Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Mai 2019