Cyngor yn rhoi gwastraff ynghanol Caerdydd i dynnu sylw
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyfaddef mai nhw oedd yn gyfrifol am wastraff oedd wedi ei adael y tu allan i Neuadd y Sir.
Dywedodd y cyngor ei fod yn rhan o ymgyrch i dynnu sylw pobl at y gwastraff sy'n cael ei adael ar hyd y brifddinas pob wythnos.
Cafodd matresi a hen ddodrefn - yn pwyso pedair tunnell - eu gadael ar un o brif sgwariau Caerdydd fore Iau.
Dywedodd y cynghorydd Michael Michael, aelod cabinet dros strydoedd glân, ailgylchu a'r amgylchedd: "Rydym yn casglu 20 tunnell o ddeunydd gwastraff ar draws y ddinas pob wythnos - maint tri Tyrannosaurus Rex - ac mae'n costio'r trethdalwr £150,000 y flwyddyn mewn gwasanaethau glanhau.
"Mewn gwirionedd, does dim esgus dros waredu gwastraff yn anghyfreithlon."