Leanne Wood: 'Dal yn rhanedig yna petae ail refferendwm'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Ni fyddai ail refferendwm yn "datrys y broblem" o wleidyddiaeth rwygol, yn ôl cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Dywedodd AC Rhondda ei bod hi'n ansicr sut byddai pobl yn pleidleisio mewn pôl, ond y byddai'r canlyniad yn "rhanedig" beth bynnag.

Mae ei holynydd, Adam Price yn gwbl gefnogol i refferendwm arall, mewn ymgais i geisio gwrthdroi canlyniad refferendwm 2016 i adael yr UE.

Pan ofynnwyd ai dyma'r cyfeiriad cywir i Blaid Cymru, dywedodd Ms Wood: "Dwi ddim yn credu bod modd eistedd ar y ffens."

'Goblygiadau democrataidd'

Nôl yn Hydref 2017, tra'n arwain Plaid Cymru, dywedodd Leanne Wood yng nghynhadledd y blaid yng Nghaernarfon y byddai'n cefnogi refferendwm arall ar Brexit os nad oedd cytundeb gyda'r UE.

Ond dwy flynedd yn ddiweddarach mae'n dweud ei bod yn pryderu am "oblygiadau democrataidd cael pleidlais arall."

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn credu bod modd ystyried y cwestiynau yma'n ysgafn, oherwydd bydd pobl yn gofyn beth yw pwynt pleidleisio mewn refferendwm neu etholiad arall yn y dyfodol.

"Felly mae gwir bryder am ddemocratiaeth os byddwn yn gadael yr UE, mae'n bryder i'r economi ac i ddyfodol pobl ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Adam Price grybwyll y syniad o refferendwm ar annibyniaeth yng nghynhadledd y blaid ym mis Mawrth

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd fod yr holl ffocws ar ddadl Brexit yn golygu "nad oes modd cael materion eraill ar yr agenda."

"Mae'r ffaith fod lefelau digartrefedd yn cyrraedd pwynt difrifol, a'r ffaith ein bod angen bwydo teuluoedd yn y Rhondda i geisio lleihau'r cynllun gwastraff bwyd, ond mae'r gofyn yn enfawr.

"Mae'r rhain yn broblemau mawr sydd ddim yn cael sylw dyledus gan fod cymaint o egni a sylw yn cael ei roi i geisio datrys y broblem Brexit," meddai.

'Anodd dod i dermau'

Daeth Leanne Wood yn olaf yn y ras i fod yn arweinydd Plaid Cymru yn 2018 tu ôl i Adam Price a'r ymgeisydd arall, Rhun ap Iorwerth.

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi wedi synnu gyda'r canlyniad, dywedodd: "Roedd hi'n anodd dod i dermau gyda beth yn union ddigwyddodd, ond does dim amheuaeth fod yna deimlad fod pobl eisiau newid.

"Roedd yn teimlo fel canfasio yn ystod refferendwm Brexit i ddweud y gwir.

"Roedd yna ofyn am newid, doedd dim awgrym beth fyddai'r newid yna, ond wrth ystyried y sefyllfa wleidyddol, roedd angen cyfeiriad gwahanol gan Blaid Cymru."