Cyfryngau cymdeithasol: 'Angen gweithredu'

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Mogan Selvakannu
Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood: 'Wynebu sylwadau o'r fath yn ddyddiol'

Mae angen i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol fod yn fwy llym a chadarn wrth ddelio gyda sylwadau rhywiol neu rhai dilornus yn erbyn menywod, yn ôl cyn arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd Leanne Wood ei bod yn derbyn sylwadau o'r fath bron yn ddyddiol ar Facebook a Twitter.

Mae hi'n dweud fod y sefyllfa yn arwain at nifer o ferched yn gorfod meddwl ddwywaith cyn dilyn gyrfa wleidyddol.

Mae Ms Wood wedi sefydlu rhwydwaith newydd i geisio mynd i'r afael â'r broblem.

Gwnaed cais i Facebook a Twitter am ymateb.

Yn ôl Ms Wood fe wnaeth y lefel o negeseuon di-chwaeth neu fygythiol gynyddu'n sylweddol yn ystod ei chyfnod fel arweinydd Plaid Cymru rhwng 2012 a 2018.

Cwyno rheolaidd

Er ei bod wedi camu o'r arweinyddiaeth, mae hi'n parhau i dderbyn sylwadau o'r fath mewn ymateb i sylwadau gwleidyddol ganddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae rhywbeth yn digwydd o leiaf unwaith bod dydd," meddai.

"Ond fe all y lefel fod yn uwch er enghraifft os ydw i wedi gwneud sylw mae rhai yn ystyried yn ddadleuol.

"Yn hytrach na mynd i wraidd y ddadl wleidyddol, mae pobl yn aml yn gwneud sylwadau sy'n ddilornus tuag at fenywod neu yn rhywieithol."

Dywedodd Ms Wood ei bod yn cwyno yn rheolaidd am sylwadau o'r fath, ac yn 2016 cafodd dyn ei garcharu am ei bygwth ar Twitter.

Ond ychwanegodd fod yna lot o'r sylwadau sydd, er yn gas, ddim yn ddigon difrïol i ddenu sylw'r heddlu.

Dywedodd fod pwyso'r botwm "mud" ar gyfer rhai cyfranwyr yn rhywbeth oedd hi'n ei wneud yn aml.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n credu fod y diwydiant yn gwneud digon dywedodd "Na. Pan oeddwn yn rhoi gwybod i Twitter a Facebook am ddigwyddiadau, anaml iawn oedd camau yn cael eu cymryd.

"Weithiau fe wnaeth e ddigwydd, ac weithiau fe gafodd cyfrifon eu cau neu eu gohirio dros dro, a dwi'n croesawu hynny. Ond yn gyffredinol maen nhw'n caniatáu gormod o gamddefnydd."

"Dwi'n credu bod yn rhaid iddynt fod yn llawr mwy cadarn."

Mae Leanne Wood wedi helpu sefydlu rhwydwaith Time's Up, a hynny fel ymateb i fudiad #MeToo ac sydd â'r nod o newid y gyfraith bresennol yn ymwneud â chamymddwyn a cham-drin ar-lein

"Y cwestiwn rwy'n aml yn ei gael yn enwedig gan fenywod ifanc sy'n ystyried bod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth ydi 'pam ddylwn i wynebu'r math o gam-drin rydych chi'n ei gael?' Ac mae'n gwestiwn anodd iawn i'w ateb."