Caerdydd yn arwyddo Marlon Pack ac Isaac Vassell
- Cyhoeddwyd

Roedd Marlon Pack wedi chwarae dros Bristol City ers 2013
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo capten Bristol City, Marlon Pack, a'r ymosodwr Isaac Vassell o Birmingham City ar ddiwrnod olaf y cyfnod drosglwyddo.
Mae'r ddau wedi arwyddo cytundebau tair blynedd gyda'r Adar Gleision.
Dyw'r ffi ar gyfer yr un o'r chwaraewyr wedi'i ddatgelu.
Fe wnaeth Pack - chwaraewr canol cae 28 oed - ymuno â Bristol City o Cheltenham Town yn 2013.

Mae Isaac Vassell (chwith) yn ymuno ar ffi sydd heb ei ddatgelu
Roedd adroddiadau bod Abertawe a Luton hefyd wedi dangos diddordeb yn Vassell, 25 oed.
Hefyd ddydd Iau fe wnaeth ymosodwr Caerdydd, Bobby Reid ymuno â Fulham ar fenthyg am y tymor.