Menywod fu'n y carchar dros yr iaith
- Cyhoeddwyd
"Does 'na ddim carchar i fenywod yng Nghymru felly roedd y menywod yn gorfod teithio ymhellach na'r dynion, ac roedd yn anoddach iddyn nhw gael gweld eu teuluoedd."
Sut beth oedd bywyd yn y carchar i fenywod gafodd eu carcharu am ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg dros y degawdau? Mae rhai o'r merched hynny wedi bod yn rhannu eu hatgofion o'u hamser o dan glo.
Mae'r awdures Angharad Tomos wedi bod yn y carchar dros yr iaith chwech o weithiau, gyda'r cyfnod cyntaf yn 1976 pan oedd hi'n 18 oed a'r cyfnod hiraf am dri mis adeg ymprydio Gwynfor Evans.
"Roedd pawb efo'i stori yn y carchar a nes i gyfarfod pobl doeddwn i byth wedi cyfarfod o'r blaen. Ar ôl dod allan o'n i'n gwybod yn well sut i dorri mewn i siop, sut i guddio, sut i ddwyn. Oedd hi'n ysgol brofiad mewn torri cyfraith.
"Y cwestiwn oedd merched eraill y carchar yn ei ofyn oedd 'Have you any children?' Oeddet ti'n dweud 'na' ac oedden nhw'n dweud 'It's easy for you then'. Hwnnw oedd y gosb fwyaf - cael eu gwahanu oddi wrth eu plant, yn enwedig os oedd y plant mewn gofal. Roedd y gofid hynny o sut i gael y plant allan o ofal a beth fyddai'r effaith ar eu bywydau nhw. Roedd problemau cymdeithasol felly a dim ffordd i'w hateb nhw mewn carchar.
"O'n i'n gallu dygymod â bywyd carchar ond unwaith y mis roedd ymweliad gan eich teulu ac roedd dod allan o awyrgylch y carchar am yr hanner awr fer yna i siarad Cymraeg ac i siarad am Gymru... roedd hwnna'n torri nghalon i.
"Dw i'n cofio profiad arall od - daeth un o'r carcharorion arall ata'i a dweud 'Ti'n siarad Cymraeg' a 'sa chi'n meddwl 'swn i wrth fy modd yn siarad Cymraeg ond fedrwn i ddim. Roedd y syniad o siarad fy iaith i mewn sefydliad fel 'na tu hwnt i mi.
"Roedd y llythyrau'n dod ac oedden nhw'n galw dy enw di ac oedd o'n beth mawr os oeddet ti'n cael llythyr - wel, oedden nhw'n dweud Tomos, Tomos, Tomos. Roedd tua 20 cerdyn post yn dod bob dydd gan gefnogwyr ac yn y diwedd o'n nhw'n galw fi'n 'Queen Mum'. Roedd hi'n braf i gael y gefnogaeth ond doedd rhai ddim wedi cael llythyr ers chwe mis.
"Y peth gwaetha' oedd pryder am fy rhieni. Oedden nhw'n bryderus amdana'i a'r effaith seicolegol arna'i, yn enwedig fy nhad oedd yn gyn-filwr.
"Yr unig effaith yw 'mod i ddim yn licio cau drysau."
Bu Meinir Francis dan glo bedair gwaith yn y 1970au a'r 1980au yn dilyn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.
"Anfonwyd y bechgyn i Pentonville a'r merched i Holloway. 'Na'r profiad cynta' o garcher ges i ac 'oedd e'n sioc. O'n i'n 19 oed ac yn ofnus iawn.
"Erbyn cyrraedd Holloway o Aberystwyth 'oedd hi'n hwyr yn y nos ac 'oedden ni'n mynd dwy ferch i bob cell. Ar ôl cael ein prosesu a chael profion meddygol roedden ni'n mynd i'r brif adain a'r sŵn yn taro ti - y clindarddach, gweiddi a'r sgrechian.
"Bod ar wahân i'r plant oedd y peth mwya' poenus. O'n i wedi meddwl bod tri mis ddim mor hir â hynny ond 'oedd e bron fel rhwyg corfforol.
"Mae'n gosb arteithiol ac annynol, ac wedi achosi rhyw fath o glawstroffobia i fi byth oddi ar hynny.
"Mewn ffordd roedd e'n gosb ychwanegol i ferched achos roedd merched yn gorfod mynd i Loegr i'r carchar bob tro.
"Gan fod fy nhad, Gwynfor Evans, yn Aelod Seneddol ar y pryd ga'th e gannoedd o lythyrau yn beirniadu'r ffaith bod e wedi cefnogi ein hymgyrch ni yn Cymdeithas yr Iaith. Roedd rhai yn ffiaidd a rhai pobl wedi rhoi baw dynol dros luniau a hala nhw drwy'r post.
"Roedd un llythyr yn dweud - 'Dear Sir, your child Meinir looks a fool, is a fool and has a fool for a father.'
"Ond 'nath y carchariadau godi ymwybyddiaeth ac arwain at nifer o fuddugoliaethau."
Aeth Enfys Llwyd i garchar Pucklechurch dair gwaith a bu dan glo gyda Meinir Francis unwaith yn Holloway hefyd pan carcharwyd nhw yn 1972 am wneud difrod i swyddfeydd y BBC yn Llundain fel rhan o'r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg.
"Roedd Holloway yn garchar categori A lle 'oedd y rhai mwya' difrifol yn mynd.
"Roedd 'na bobl oedd wedi llofruddio yn ogystal â phobl oedd wedi dwyn poteli llaeth neu rhyw fân bethau.
"O'n ni'n canu lot yn y carchar. O'n ni yn ein celloedd yn y nos a dim byd lot i neud felly o'n ni'n canu emynau, canu gwerin a Dafydd Iwan. 'Oedden ni wedi dod eitha' poblogaidd am ganu.
"Felly gathon ni gais i fynd i gôr y carchar. Fan 'na o'n ni'n cwrdd â phobl oedd wedi troseddu lot mwy difrifol.
"A fan'na gwrddon ni â Myra Hindley achos 'oedd llais canu pert iawn ganddi. Fe wnaethon nhw ofyn i ni ganu mewn chwechawd. Oedd Meinir a fi'n canu'r tenor a Myra Hindley yn canu alto. Oedd hi'n anodd credu beth oedd hi wedi'i wneud achos oedd hi'n edrych yn ferch hollol normal.
"O'n i'n edrych ar ei llygaid a'i dwylo a'i chlustiau a meddwl beth oedd y clustiau wedi clywed, y dwylo wedi gwneud a'r llygaid wedi gweld...
"Mae'r naws wedi newid a phobl yn cefnogi'r iaith Gymraeg nawr. Mae'n fraint bod ni wedi bod yn rhan fach, fach o hynny."
Bu Mari Wyn dan glo ddwy waith - unwaith yng ngharchar Bridewell yn Lerpwl tra'n ferch ysgol a'r ail waith yn Pucklechurch ym Mryste.
"Y gwely oedd yr amser gwaetha' pan oedd y carchar yn ymdawelu. Dyna pryd 'oedd yr hel meddyliau a'r unigrwydd yn dod i mewn. Wnâi byth anghofio clywed sgrech annaearol un tro a meddwl 'mae'r dydd wedi mynd yn drech na rhywun'.
"Ar y dydd Sul cyntaf yn y carchar daeth fy nhad, oedd yn weinidog, o Ddeiniolen i Pucklechurch. Dechreuon ni gael sgwrs a gwaeddodd un o'r gwarchodwyr 'Speak English!'
Dyma fy nhad yn dweud 'I've never spoken English to my daughter and I don't intend to do so now.'
Dywedodd y gwarchodwr, 'You will have respect for the Queen's English or I'll throw you out.'
Dyma fy nhad yn gofyn os oeddwn i'n iawn ac yna'n penderfynu gadael. Roedd yn dipyn o beth iddo fo ac i Mam.
"Dw i dal yn wladgarwr ond byddai ddim y gyts arna'i heddiw i wynebu carchar. Mae'n fyd hollol wahanol."
Bydd Carchar dros yr Iaithyn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru nos Sul, Awst 18 am 19.05, neu bydd ar gael ar BBC Sounds ar ôl y darllediad.
Mae mwy am brofiadau menywod a dreuliodd amser yn y carchar dros yr iaith mewn arddangosfa arbennig - Mamiaith - gan yr artist Gwenllian Llwyd - Adeilad yr Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf, 7-11 Medi.
Hefyd o ddiddordeb