Aduniad rhai o'r menywod aeth i'r carchar dros y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Saith o'r menywod sydd wedi bod i'r carchar dros yr iaithFfynhonnell y llun, Helen Greenwood
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r menywod ddaeth at ei gilydd ar gyfer prosiect celf Gwenllian Llwyd, o'r chwith i'r dde: Enfys Llwyd, Helen Greenwood, Angharad Tomos, Sioned Elin, Ann Rhys, Meinir Francis, Marged Tomos

Cafodd llun hanesyddol ei dynnu yn Neuadd Bentref Talgarreg, Ceredigion, yn ddiweddar o rai o'r menywod sydd wedi bod yn y carchar am ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg dros y degawdau.

Fe ddaeth y saith yn y llun at ei gilydd ar gyfer prosiect gan y fyfyrwraig celf Gwenllian Llwyd sy'n gwneud gradd meistr mewn Celfyddyd Gain.

Mae hi wedi dewis cyfraniad menywod i Gymdeithas yr Iaith fel pwnc ei phrosiect terfynol a fydd yn cael ei arddangos fis Medi 2019.

Mae Gwenllian yn ferch i un o'r menywod yn y llun, Enfys Llwyd, a aeth i'r carchar yn 1972 am wneud difrod gyda thri arall yn swyddfeydd y BBC yn Llundain fel rhan o'r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg.

Anfonwyd hi ac un arall o'r protestwyr, Meinir Francis, i garchar menywod Holloway yn Llundain a'u gorchymyn i gael profion seicolegol.

"Mae Mam a Dad wedi bod yn y carchar dros yr iaith," meddai Gwenllian.

"Mae angen talu teyrnged i'r dynion hefyd wrth gwrs ond o'n i'n teimlo bod lot o sylw wedi bod i'r dynion dros y blynyddoedd a falle dim gymaint i waith caled y menywod sydd wedi bod yn weithgar iawn yn ogystal.

"Does na ddim carchar i fenywod yng Nghymru felly roedd y menywod yn gorfod teithio ymhellach na'r dynion, ac roedd yn anoddach iddyn nhw gael gweld eu teuluoedd."

Roedd hyn yn ei gwneud yn arbennig o anodd i'r rhai oedd yn famau, meddai Gwenllian.

Ddim yn gwybod yr hanes

"Ychydig iawn oedd yn cefnogi beth roedden nhw'n ei wneud ac roedd yna stigma mawr yn perthyn i fynd i'r carchar, yn enwedig i fenywod â phlant," meddai.

"Ond roedd y menywod yma'n fodlon rhoi eu hamser ac aberthu eu dyfodol o bosib, oherwydd doedden nhw ddim yn gwybod sut y byddai'n effeithio ar eu bywydau.

"'Dyw lot o bobl ddim yn sylweddoli erbyn hyn faint o bobl sydd wedi gweithio dros yr iaith ac rydw i'n teimlo ei bod yn bwysig addysgu pobl am hyn achos nad ydy'r system addysg yn gwneud - felly dwi'n gobeithio gwneud hynny drwy fy ngwaith celf," meddai.

Bydd gwaith terfynol Gwenllian wedi ei seilio ar hanes menywod y mudiad iaith a'i sgyrsiau gyda rhai ohonynt.

Hefyd o ddiddordeb: