Y Bencampwriaeth: Derby County 0-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Golwr Abertawe, Freddy Woodman yn arbed cic Martin Waghorn o'r smotyn
Mae Abertawe yn dal heb golli ar ddechrau'r tymor newydd wedi gêm gyfartal, ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn Derby County.
Fe wnaeth golwr yr Elyrch, Freddy Woodman arbed cic o'r smotyn gan Martin Waghorn tua diwedd yr hanner cyntaf, ac atal y gwrthwynebwyr rhag sgorio wedi'r egwyl.
Daeth Borja Bastón yn agos at roi mantais i Abertawe ond cafodd ei ergyd ei atal gan Kelle Roos, golwr Derby, ac roedd yna gyfleoedd hefyd tua diwedd y gêm i Nathan Dyer a Sam Surridge.
Fe roddodd y rheolwr, Steve Cooper gyfle cyntaf i Aldo Kalulu ers iddo ymuno â'r clwb ond bu'n rhaid iddo adael y maes hanner ffordd drwy'r ail hanner ar ôl cael anaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2019