100 yn protestio'n erbyn codi 600 o dai ar dir gwyrdd

  • Cyhoeddwyd
Un o brotestwyr ifan Gwern y Domen
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn defnyddio llwybrau ardal Gwern y Domen i farchogaeth

Mae dros 100 o bobl, yn cynnwys llawer ar ben ceffylau, wedi protestio yn erbyn cynlluniau i godi 600 o gartrefi ar dir gwyrdd yn Sir Caerffili.

Mae cwmnïau Persimmon Homes a PMG Limited wedi ailgyflwyno cais i ddatblygu tir Gwern y Domen, rhwng Parc Lansbury a Rhydri.

Bydd y cynlluniau'n mynd o flaen pwyllgor cynllunio'r sir ddydd Mercher ac mae swyddogion yn argymell eu cymeradwyo.

YN ôl Persimmon, fe fyddai'r cynllun yn dod â "buddion economaidd sylweddol" i'r ardal ond mae gwrthwynebwyr yn galw am warchod yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tyler Pesci-Griffiths eisiau i bobl eraill gael yr un mwynhad o dreulio amser yn yr awyr agored ag yntau wrth gael ei fagu yn yr ardal

Tyler Pesci-Griffiths, 18, wnaeth trefnu presenoldeb y marchogwyr yn y brotest.

Dywedodd bod yntau'n "ffodus" o gael ei fagu mewn ardal mor hardd ac agored a mwynhau treulio amser gyda'i geffylau a'i gŵn.

"Y cyfan fydd y genhedlaeth nesaf yn ei weld bydd 600 o dai ac efallai parc gyda sleid. Fel plentyn, fysa'n well gen i gael y tir yma i redeg o'i gwmpas."

Dywedodd Christine Tallon, sy'n byw ger y safle ac yn marchogaeth: "Mae pawb wedi eu bwrw'n ofnadwy gan y cynlluniau. Mae pobol yn caru'r lle yma a methu dioddef meddwl y bydd y gymuned leol yn ei golli.

"Byddai'n rhaid i ni farchogaeth yn amlach o lawer ar y ffyrdd. Byddai 'na fwy o geir. Yn fan hyn, ni'n gallu marchogaeth yn ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd dwsinau o'r protestwyr ar gefn ceffyl

Mae'r darlledwr a'r naturiaethwr Iolo Williams wedi cefnogi'r ymgyrch yn erbyn datblygu Gwern y Domen, sy'n gynefin i fywyd gwyllt yn cynnwys madfallod dŵr ac ystlumod clustiog.

Mae'r cynghorydd lleol, Jayne Garland yn disgrifio'r ymgyrch fel "brwydr Dafydd a Goliath" a bod dim angen parhau â chynlluniau datblygu "artiffisial" yng Nghaerffili er mwyn delio â chynnydd ym mhoblogaeth Caerdydd dros 20 mlynedd.

"Y cyfan y gwneith hyn yw creu trefi i gymudwyr, ardaloedd gorlawn, heb sicrhau'r seilwaith yn y lle cyntaf.

"Os maen nhw'n parhau i ddatblygu yn yr ardal yma ger coridor yr M4, byddan nhw'n tanseilio ymdrechion i wthio ffyniant i ogledd y cwm. "

Mae Persimmon yn dweud y bydd y datblygiad yn creu 355 o swyddi bob blwyddyn ac yn hwb o £15.1m y flwyddyn i'r ardal leol.

Dywedodd llefarydd bod y cwmni a'r cyd-dirfeddiannwr, PMG wedi cydweithio'n agos â'r cyngor sir ar eu strategaeth a bydd y cartrefi'n "cael eu cynnig yn y lle cyntaf i'r awdurdod lleol ar gyfer ei gynllun tai cymunedol".

Ychwanegodd bod dim bwriad i newid y llwybr presennol ar gyfer marchogaeth ond yn hytrach "i'w wella'r hyn sy'n cael ei blannu ar ei hyd".