Hosbis Dewi Sant yn cau eu safle yng Nghaergybi dros dro

Cafodd yr hosbis ei hagor yn 2021 ond mae'n cau dros dro am sawl ffactor meddai'r elusen
- Cyhoeddwyd
Bydd elusen Hosbis Dewi Sant yn cau eu hosbis yng Nghaergybi dros dro o fis Hydref 2025 ymlaen.
Mae hyn yn golygu y bydd nifer o swyddi clinigol ac anghlinigol yn y fantol yno wrth i ymgynghoriad llawn ddechrau.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd bod "llesiant staff yn flaenoriaeth ac rydym yn darparu cymorth i'r staff yn ystod y cyfnod anodd hwn".
Dywedon nhw hefyd y bydd gwasanaethau yn eu safleoedd yn Llandudno a Bangor yn parhau ac ar gael i bawb sy'n cael gofal yng Nghaergybi ar hyn o bryd.
'Newyddion trychinebus'
Cafodd yr hosbis ei hagor ar Ddydd Gŵyl Dewi ar safle Ysbyty Penrhos Stanley yn 2021.
Dyma oedd yr hosbis gyntaf i gael ei lleoli ar Ynys Môn ac mae'n cynnwys pedwar gwely.
Fe ddywedodd yr Aelod Seneddol, Llinos Medi bod hyn yn "newyddion trychinebus i deuluoedd a staff Ynys Môn.
"Cefais brofiad personol gan weld gofal rhagorol yng Nghaergybi rai misoedd yn ôl," meddai cyn pwysleisio bod yn "rhaid gwarchod y gwasanaethau yma'n well".
Yn ôl yr elusen mae sawl ffactor yn gyfrifol am eu penderfyniad gan gynnwys "cyfuniad o gostau rhedeg cynyddol ac incwm is".
Ychwanegon nhw y bydd hyn yn eu caniatáu i "ganolbwyntio ar gryfhau ein gweithrediadau - gan helpu i gyflawni cenhadaeth yr hosbis i sicrhau bod pobl Ynys Môn, Conwy a Gwynedd yn derbyn y gofal diwedd oes y maen nhw'n ei haeddu".
Mi fydd y penderfyniad yma i gau'r cyfleuster dros dro yn cael ei adolygu ymhen 12 mis.
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.