Carchar i gyn-athletwr a hyfforddwr am gam-drin plant

  • Cyhoeddwyd
Phil Banning
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Phil Banning (llun o 2006) yn arfer bod yn hyfforddwr ar dîm athletau Cymru

Mae cyn-athletwr a hyfforddwr o dde Cymru wedi ei garcharu am saith mlynedd a hanner am gam-drin merched mor ifanc â 10 neu 11 oed.

Fe wnaeth Phil Banning, 68, gam-drin pedair merch rhwng 1976 a 1982 yng Nghlwb Athletau Andover yn Hampshire.

Plediodd cyn-hyfforddwr cenedlaethol Cymru, sy'n wreiddiol o Ben-hŵ yn Sir Fynwy, yn euog yn Llys y Goron Caer-wynt i 18 cyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Dywedodd y Barnwr Keith Cutler fod Banning wedi meithrin perthynas gyda merched a oedd yn ei "addoli", yn yr hyn a oedd yn "gam-drin difrifol o ymddiriedaeth".

Dywedodd Tim Moores, ar ran yr erlyniad, fod y troseddau wedi digwydd yn ystod sesiynau tylino ac mewn cyfarfodydd preifat a drefnwyd gan Banning.

'Rhyddhad rhywiol'

Roedd Banning wedi cusanu merched a oedd y ciwio i fynd i mewn i ystafell dywyll gydag ef yn ystod parti yn ei dŷ, meddai Mr Moores.

Clywodd y llys ei fod yn aml yn ymosod ar y merched yn ystod tylino yn ei gartref.

Fe wnaeth Banning, cyn-redwr Tîm GB ac athro ysgol uwchradd, yngan y gair "sori" wrth ddioddefwyr a oedd yn bresennol yn y llys.

Dywedodd y Barnwr Cutler wrth Banning ei fod, fel "athletwr lleol adnabyddus", wedi meithrin perthynas rhywiol â'r merched, gan eu defnyddio fel ei "ryddhad rhywiol".

Dywedodd prif weithredwr Athletau Cymru, Matt Newman fod "hyn yn newyddion dychrynllyd" ond nad oedd y ymwybodol fod unrhyw un o'r troseddau wedi digwydd yn ystod ei gyfnod yng Nghymru.

Gorchmynnodd y barnwr i chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus i aros ar ei ffeil.