Carchar am niweidio babi drwy ei hysgwyd
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn o Hwlffordd ei garcharu am 10 mlynedd am ysgwyd babi gan achosi anafiadau i'r ymennydd a newidiodd bywyd y babi.
Roedd Stephen Carl Smith wedi cytuno i warchod merch fach pum mis oed ei gyfaill Luke Taylor, tra bod Mr Taylor a'i bartner Sophie Reed wedi mynd i bysgota.
Ond pan ddaeth y ddau adre, fe welson nhw fod Bayleigh-lee Taylor wedi diodde' niwed i'w hymennydd.
Clywodd Llys y Goron Abertawe na fydd yn gwella o'i hanafiadau.
Roedd Smith, 28 oed, wedi honni fod y babi wedi mynd yn sâl yn sydyn.
Ond penderfynodd y rheithgor ei fod wedi ei hysgwyd, ac fe'i cafwyd yn euog o achosi niwed corfforol difrifol a bwriadol.
Gofal gydol oes
Mae Bayleigh-lee bellach bron yn ddall ar ôl diodde' gwaedlif ar ei hymennydd.
Roedd Smith yn mynnu ei fod yn ddieuog, ac wedi gwrthod ymddiheuro.
Dywedodd y Barnwr Peter Heywood fod Smith wedi colli'i dymer, ac wedi colli rheolaeth.
"Roedd y canlyniadau yn drasig ac yn newid bywydau," meddai.
"Bydd hi angen gofal meddygol am weddill ei hoes. Aeth rhywbeth mawr o'i le y noson honno."
Roedd yn derbyn barn arbenigwr y gallai'r niwed fod wedi cael ei achosi gan golli rheolaeth am amrantiad gan rywun oedd ddim wedi bwriadu anafu'r plentyn, ond roedd rhaid iddo hefyd ystyried y goblygiadau ofnadwy.