Beirniadu oedi mewn achos cam-drin plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi beirniadu Heddlu Gogledd Cymru am oedi am 18 mis cyn cyhuddo dyn o gam-drin rhywiol.
Mae'r dyn bellach wedi cyfadde' i berthynas rhywiol gyda merch 14 oed.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, cafodd Michael David Jones, 32 oed o Ddwyran ar Ynys Môn, ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.
Roedd Heddlu'r Gogledd wedi holi Jones am yr honiadau ym mis Tachwedd 2017, ond ni chafodd ei gyhuddo tan Mai eleni.
Dywedodd y Barnwr Huw Rees fod yr oedi yn "anfaddeuol".
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael cais i ymateb.
'Difetha bywyd'
Clywodd y llys fod Jones wedi mynd â'r ferch yn ei gar i Gaernarfon, ac wedi cyflawni gweithred rywiol arni yng nghefn y car.
Dangosodd ffôn symudol y ferch sgwrs testun gyda Jones oedd yn dweud yn glir ei bod yn 14 oed ar y pryd. Roedd Jones yn 30.
Wrth roi tystiolaeth o du ôl i sgrîn, dywedodd y ferch - sydd bellach yn 16 oed - bod hynny wedi difetha'i bywyd ac achosi iddi hunan-niweidio.
"Chi oedd yr oedolyn - hi oedd y plentyn," meddai'r Barnwr Rees wrth Jones.
Cafodd gorchymyn atal niwed rhyw ei gyhoeddi yn erbyn Jones, a bydd rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw.