Angen mwy o amser i drafod taliadau ffermio cyn Brexit

  • Cyhoeddwyd
Defaid

Dylai pobl gael mwy o amser i fynegi eu barn am daliadau ffermio newydd yng Nghymru os oes Brexit digytundeb, yn ôl arweinwyr yn y diwydiant amaethyddol.

Daw'r alwad wrth i weinidogion o Lywodraeth Cymru baratoi i ymweld â dwy sioe amaethyddol yng Nghymru yn ystod yr wythnos.

Mae trefn daliadau newydd ar gyfer 2021 - fydd yn gwobrwyo ffermwyr sy'n gwella eu tir - yn agored i ymgynghoriad tan 30 Hydref.

Yn ôl undebau ffermio, bydd sylw yn cael ei roi ar yr effaith byddai Brexit yn ei gael y diwrnod wedyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na allai "eistedd yn ôl a disgwyl i Brexit ddigwydd".

'Effaith ddinistriol'

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a'r Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi dweud y byddai Brexit digytundeb yn cael "effaith ddinistriol" ar y diwydiant.

Bydd y ddau yn ymweld â Sioe Amaethyddol Penfro ar ddechrau'r wythnos cyn symud ymlaen i Sioe Amaethyddol Môn ac yn ddiweddarach yn yr wythnos i Ddinbych.

Ymysg y trafodaethau bydd y drefn daliadau newydd fydd yn dod i rym yn lle'r taliadau o'r UE, sydd ar hyn o bryd yn dibynnu ar faint o dir sydd gan ffermwyr.

Dywedodd Ms Griffiths ei bod "eisiau gweithio gyda ffermwyr i ddylunio cynllun sy'n gweithio".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Drakeford a Lesley Griffiths yn ymweld â thair sioe amaethyddol yn ystod yr wythnos

Mae undebau ffermio yng Nghymru wedi croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru i wrthwynebu Brexit digytundeb, ond maen nhw'n cwestiynu amseriad yr ymgynghoriad.

Dywedodd Richard Tudor o NFU Cymru y dylai'r llywodraeth "edrych i sicrhau dyfodol a cheisio sefydlogi i fusnesau ffermio yng Nghymru".

Mae Glyn Roberts o'r FUW yn galw am oedi gan y byddai "Brexit yn tynnu sylw oddi ar y ddogfen ymgynghorol bwysig".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig i ni ddefnyddio'r amser sydd gennym i ddylunio'r ffordd orau i gefnogi ffermwyr Cymru, dyna pam mae'r ymgynghoriad yn hynod bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Aled Hughes, mae'r gost o gynnal sioe Môn yn cynyddu'n flynyddol

Bydd Mr Drakeford a Ms Griffiths yn ymweld â sioe Môn yng nghanol yr wythnos, ble mae disgwyl i 60,000 o bobl fynychu dros ddeuddydd.

Eleni ni fydd unrhyw geffyl yn cael mynychu'r sioe. Fe benderfynwyd canslo'r holl ddosbarthiadau oherwydd y ffliw.

Dywedodd Aled Hughes, sydd wedi bod yn weinyddwr y sioe ers dros 30 mlynedd fod canslo digwyddiadau'r ceffylau wedi bod yn "benderfyniad anodd iawn".

'Sioe fel teulu'

"Mae'r sioe fel teulu, 'da ni'n licio cael pawb yn rhan o'r sioe. Mae'n rhan bwysig, ond yn anffodus fe dorrodd y ffliw 'ma ar yr Ynys ar y pryd.

"Roedd yn rhaid i ni 'neud penderfyniad yn gynnar er mwyn arbed costau y baswn wedi eu cael os byddwn wedi gadael y penderfyniad tan yn agosach at y sioe.

"Iechyd y ceffylau yn gyffredinol ydy'r peth pwysicaf wrth gynnal y sioe."

Disgrifiad o’r llun,

Mae canslo'r digwyddiadau'r ceffylau wedi bod yn "benderfyniad anodd" yn ôl gweinyddwr Sioe Môn, Aled Hughes

Mae Sioe Môn yn cael ei hystyried yn un o sioeau sirol amaeth mwyaf Cymru.

Mae ei chynnal yn costio £500,000 ac mae'r costau'n cynyddu pob blwyddyn yn ôl Mr Hughes.

"Mae costau cyffredinol cynnal sioeau fel hyn yn mynd i fyny blwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Yr unig beth 'da ni'n gallu gwneud fel sioe ydy codi ar bobl ar y giât ac ar stondinau i allu cael y pres yn ôl i gyfro'r costau."