Beirniadu diffyg baner las ar draeth Dinas Dinlle
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn cael ei feirniadu am gyflwr traeth Dinas Dinlle a'r ffaith nad oes 'na Faneri Glas yn cael eu hedfan yno.
Mae'r traeth wedi cael dynodiad traeth Baner Las, ond oherwydd nad oes 'na finiau ailgylchu yno ar hyn o bryd does 'na ddim modd eu dangos.
Mae'r traeth yn hynod o boblogaidd hefo pobl leol a thwristiaid, ond mae Guto Jones, sy'n byw'n lleol, yn honni bod cyflwr y traeth a'r ardal wedi dirywio yn ddiweddar.
Dywedodd y cyngor bod swyddogion yn "ymweld â Dinas Dinlle yn rheolaidd" er mwyn "sicrhau ei fod yn ddiogel, glan a thaclus".
'Colled enfawr'
Dywedodd Mr Jones wrth Cymru Fyw: "Mae'n siom i fod yn onest gweld hyn yn digwydd yma.
"Dwi wedi bod yn teithio o amgylch y byd a newydd ddod adref o dde America ac roedd y bobl yn fanno yn parchu eu traethau ac mae'n siom i fod yn onest fedrwn i ddim dweud yr un peth am fama heddiw.
"Mae o yn mynd i effeithio'r economi... traeth blêr a bydd llai o bobl am ddod yma ac yn sicr o effeithio'r siopau a'r gwestai ar y ffrynt os 'di pobl ddim yn dod yma."
Un arall sy'n poeni am y sefyllfa ydy Wyn Williams oedd yn arfer gweithio gyda Cadw Cymru'n Daclus ac sy'n byw yn Ninas Dinlle.
Dywedodd: "Dydyn nhw [Cyngor Gwynedd] heb gydymffurfio 'efo'r rheolau sydd ar gyfer y Faner Las.
"Mae'n golled enfawr. Daw pobl yma o Ewrop oherwydd y statws Baner Las.... pa argraff mae hyn yn ei roi iddyn nhw?"
'Cyhwfan y faner'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod traeth Dinas Dinlle yn cael ei "reoli a'i warchod" a'i fod yn "un o nifer helaeth o draethau trefol a gwledig sydd yn ein gofal".
"Mae glendid y traeth a'r dŵr ymdrochi yma o safon ragorol ac mae'r safon yn cwrdd â gofynion y Faner Las yn gyson ers blynyddoedd lawer.
"Mae staff y cyngor yn ymweld â Dinas Dinlle yn rheolaidd ac yn ymgymryd ag unrhyw waith sydd angen ei gwblhau ar y traeth er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel, glan a thaclus ac yn cyrraedd y safon mae pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn ei ddisgwyl.
"Mae biniau ailgylchu plastig, caniau a gwydr newydd wedi eu pwrcasu ar gyfer traeth Dinas Dinlle.
"Unwaith bydd y biniau wedi eu gosod a threfniadau wedi eu gwneud i'w gwagio a gwasanaethu fel rhan o raglen waith ein swyddogion gwastraff ac ailgylchu - sydd eisoes yn gyfrifol am wagio biniau stryd mewn ardal eang iawn - bydd modd cyhwfan y Faner Las yn Ninas Dinlle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019