Cyngor i helpu yn dilyn gorwario amgueddfa Storiel Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi addo gweithredu yn dilyn pryderon fod amgueddfa ym Mangor wedi gorwario £72,000 y llynedd.
Costau staffio a diffyg incwm sy'n cael y bai am broblemau ariannol Storiel.
Cafodd yr adeilad Gradd II ar Balas yr Esgob - sydd â rhannau'n dyddio 'nôl i 1500 - ei drawsnewid fel rhan o brosiect gwerth £2.6m.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw'n edrych i sefydlu ymddiriedolaeth i gefnogi gweithgareddau codi arian.
Diolch i gyfraniad o £1.4m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, cafodd yr adeilad ei weddnewid gydag orielau amgueddfaol, orielau celf gyfoes, siop, caffi ac ystafell weithgareddau gan agor yn 2016.
Er gwaethaf niferoedd ymwelwyr addawol wedi'r symud, fe rybuddiodd adroddiad i arweinwyr y cyngor yn gynharach eleni fod yn rhaid adolygu Storiel fel model busnes.
Mae mynediad i Storiel am ddim, ond mae ymwelwyr yn cael eu gwahodd i roi cyfraniadau.
'Eisiau cefnogaeth pobl'
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Rydyn ni'n gweithio i fynd i'r afael â'r gorwariant yng nghyllideb Storiel ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
"Fel rhan o'r ymdrechion hyn, rydym yn y broses o gefnogi sefydlu Ymddiriedolaeth Datblygu Storiel a fydd yn cefnogi gweithgareddau codi arian ar gyfer Storiel yn y dyfodol.
"Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda Chyfeillion Storiel ac mae hefyd yn adolygu'r strwythurau yn Storiel gyda'r nod o ddatblygu ceisiadau cyllid i gefnogi gweithgareddau."
Dywedodd y llefarydd fod yr awdurdod yn gobeithio y byddai pobl yn cefnogi Storiel, gan ddweud ei fod yn cynnal gweithgareddau teuluol a digwyddiadau newydd gyda'r nod o ddenu ymwelwyr newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2016