Cymeradwyo gwesty i URC ger Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd

Bydd yr adeiladau presennol yn cael eu hadnewyddu, ac estyniad newydd yn cael ei adeiladu
Mae cynlluniau am westy moethus ger Stadiwm Principality yng Nghaerdydd wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Caerdydd.
Fe fydd hen safleoedd y swyddfa bost a'r llys sirol ar Heol Y Porth (Westgate Street) yn cael eu troi'n westy pedair seren, 175 ystafell.
Bydd yr adeiladau presennol yn cael eu hadnewyddu, ac estyniad chwe llawr newydd yn cael ei adeiladu.
Datblygwyr Rightacres ac Undeb Rygbi Cymru sydd y tu ôl i'r cynlluniau ar gyfer Gwesty Westgate, a'r bwriad yw cael y Celtic Manor i'w reoli.

Cafodd yr hen swyddfa bost ei agor yn 1896
Roedd 17 o bobl wedi gwrthwynebu'r cynlluniau ar sail cynnydd yn lefelau traffig a sŵn yn ystod y gwaith datblygu.
Ond fe wnaeth cynghorwyr Caerdydd gymeradwyo'r cynlluniau ddydd Mercher.