Arestio llanc yn dilyn ymosodiad â chyllell yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Stryd yr Eglwys
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Stryd yr Eglwys yn oriau mân fore Mawrth

Mae llanc yn ei arddegau wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad â chyllell yn Y Rhyl ble cafodd dyn lleol 43 oed anafiadau difrifol.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Mawrth eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad yn oriau mân y bore ar Stryd yr Eglwys.

Mae dyn 18 oed o Lannau Mersi bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae dau ddyn o ardal Dinbych hefyd wedi'u harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa, ac mae timau fforensig yr heddlu'n parhau i chwilio tai yn Ninbych.

"Rydyn ni wedi cymryd camau mawr dros y 24 awr ddiwethaf ac rydw i'n ddiolchgar iawn am y wybodaeth a'r gefnogaeth gan y cyhoedd sydd wedi'n galluogi ni i gyrraedd y pwynt yma," meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Steve Williams.

Ychwanegodd bod yr ymchwiliad yn parhau ac y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.