Hyfforddi gyrwyr tacsi i weld arwyddion o gam-driniaeth

  • Cyhoeddwyd
Jean Thomas, gyrrwr tacsi
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jean Thomas iddi gael sioc o weld sut mae pedoffiliaid yn targedu plant bregus

Mae gyrwyr tacsi yn Sir Gaerfyrddin yn cael hyfforddiant i adnabod arwyddion bod plant ac oedolion yn cael eu cam-drin mewn rhyw ffordd.

Cyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys sy'n trefnu'r hyfforddiant sy'n dangos sut mae pobl sy'n agored i newid yn cael eu targedu.

Eisoes mae cannoedd o yrwyr tacsi wedi cwblhau'r hyfforddiant, sy'n cynnwys fideo tiwtorial, fel rhan o'u gofynion trwyddedu.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes - yr aelod o fwrdd gweithredol y cyngor sir sy'n gyfrifol am ddiogelu'r cyhoedd - bod "diogelu plant yn gyfrifoldeb i ni gyd", ac mai gyrwyr tacsi "yw llygaid a chlustiau'r gymuned".

Disgrifiad,

'Nhw yw llygaid a chlustiau'r gymuned'

Mae'r hyfforddiant yn pwysleisio bod unigolion bregus ddim yn deall beth sy'n digwydd iddyn nhw, oherwydd problemau alcohol neu gyffuriau, anableddau dysgu a chyfathrebu, eu hoedran a chyflyrau iechyd meddwl.

Y gobaith yw y bydd gyrwyr tacsi a chynorthwywyr teithio yn adnabod arwyddion o hyn ymlaen bod plant neu oedolion:

  • yn cael eu cam-drin yn rhywiol;

  • yn dioddef trais yn y cartref neu gam-drin domestig;

  • wedi cael eu masnachu ac yn cael eu cadw fel caethweision;

  • yn cael eu gorfodi i gludo cyffuriau i drefi'r sir neu fod yn rhan o gynllwyn gan derfysgwyr.

Fel rhan o'r hyfforddiant, sy'n bosib i'w gwblhau ar-lein, mae pobl yn dysgu sut i adael i'r awdurdodau wybod am eu pryderon, gan ddiogelu eu hunain.

Dywedodd Mr Hughes bod "unrhyw blentyn" yn gallu cael eu camfanteisio'n rhywiol "waeth beth fo'i ddiwylliant, ethnigrwydd, crefydd, rhyw neu gefndir".

'Sioc'

Mae Jean Thomas yn gyrru tacsis yng Nghaerfyrddin ers dros 20 mlynedd.

Dywedodd ei bod wedi cael "sioc" ar ôl gweld enghreifftiau yn ystod yr hyfforddiant o sut mae pobl yn cael eu targedu gan bedoffiliaid.

Er nad yw wedi gweld arwyddion o gam-driniaeth hyd yn hyn, mae'n dweud y bydd yn cofio'r hyn mae hi wedi dysgu.

"Nawr dwi 'di gweld e, ma' fe'n mynd i 'neud wa'niaeth," meddai. "Ma' rh'wbeth 'da fi i wylio amdano fe."