Y Bencampwriaeth: Reading 3-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Robert GlatzelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n brynhawn rhwystredig i ymosodwr newydd Caerdydd, Robert Glatzel

Roedd hi'n berfformiad siomedig gan yr Adar Gleision brynhawn Sul wrth i Reading sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn Stadiwm Madejski.

Roedd pedwar newid i'r tîm drechodd Luton y penwythnos diwethaf, ac ar ôl 20 munud yn unig roedd rhaid i un o sêr y gêm honno, Marlon Pack adael y cae oherwydd anaf.

Roedd Reading wedi colli'r ddwy gêm gynghrair iddyn nhw eu chwarae cyn ymweliad Caerdydd, ond y tîm cartref oedd yn llwyr reoli llif y chwarae yn yr hanner cyntaf.

Daeth y gôl gyntaf wedi cyfuniad o amddiffyn sâl gan Will Vaulks a chwarae ardderchog gan George Puscas lawr yr asgell dde.

Ar ôl curo ei ddyn yn hawdd fe grymanodd Puscas y bêl heibio Alex Smithies i gornel uchaf y rhwyd.

Fe sgoriodd Reading yr ail bum munud cyn hanner amser, Puscas unwaith eto yn llwyddo i guro Aden Flint i'r bêl wrth y postyn agosaf.

Er i Callum Paterson ac Isaac Vassell ddod ymlaen fel eilyddion ar hanner amser, doedd Caerdydd ddim yn llwyddo i greu digon o gyfleoedd gwirioneddol i boeni amddiffyn y Royals.

Ond wrth i'r Adar Gleision ymosod roedd bylchau enfawr yn ymddangos yn yr amddiffyn, a gyda phum munud yn weddill fe sgoriodd Jonathan Swift y drydedd i Reading.

Fe allai Reading fod wedi sgorio pedwaredd yn ystod yr amser a ychwanegwyd ar gyfer anafiadau, ond fe arbedodd Smithies ergyd Yakou Meite o'r smotyn.