Pryder bod clefyd marwol yn lledaenu ymysg gwenyn Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gwenyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Gruffydd Rees ddifa un o'i gychod gwenyn oherwydd y clefyd

Mae pryder yn cynyddu wrth i achosion o glefyd marwol ledaenu ymysg gwenyn yng Nghymru.

Hyd yn hyn eleni mae bron i bum gwaith yn fwy o achosion wedi'u cofnodi o'i gymharu â thrwy gydol y llynedd.

Mae Gruffydd Rees, sydd wedi bod yn cadw gwenyn ers bron i ddegawd, wedi colli cwch gwenyn ar ôl i achos o Foulbrood Americanaidd (AFB) daro ei fferm.

Dywedodd Mr Rees, o Ddryslwyn yn Sir Gâr, nad yw wedi cael unrhyw broblemau yn y gorffennol, nes iddo sylweddoli ar newid i'r cychod yr wythnos ddiwethaf.

Difa'r nythfa

"Rydw i wedi cael fy hyfforddi i adnabod clefydau a heintiau, felly ro'n i'n gwybod yn syth bod rhywbeth ddim yn iawn," meddai.

Fe wnaeth profion gadarnhau mai achos o AFB oedd y broblem - clefyd marwol sy'n gwasgaru'n gyflym, a does dim ffordd o wella gwenyn sydd â'r cyflwr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gruffydd Rees bod y clefyd wedi cael "effaith enfawr yn emosiynol ac yn ariannol"

Bu'n rhaid i Mr Rees ddifa'r holl gychod - y gwenyn a'r mêl - oherwydd y clefyd.

"Mae dinistrio nythfa lwyr wedi bod yn un o'r pethau anoddaf rydw i erioed wedi'i wneud," meddai.

Dywedodd ei fod wedi cael "effaith enfawr yn emosiynol ac yn ariannol", gydag yntau'n gwerthu ei fêl dan yr enw Gwenyn Gruffydd.

Achosion ar gynnydd

Mae achosion o AFB wedi cael eu cofnodi yn y DU ers nifer o flynyddoedd, ond mae ffigyrau'n awgrymu bod nifer yr achosion newydd ar gynnydd.

Mae 14 o nythfeydd wedi gorfod cael eu dinistrio yng Nghymru hyd yn hyn eleni oherwydd y clefyd, o gymharu â dim ond tair trwy gydol 2018.

Dywedodd prif archwilydd gwenyn Cymru, Frank Gellatly ei bod yn hollbwysig fod gwenynwyr yn cofrestru eu cychod gwenyn.

"Rydyn ni'n bryderus... ac eisiau gwybod ble mae'r cychod gwenyn wedi'u lleoli, ac yna os oes clefyd yn yr ardal fe allan ni archwilio'r holl nythfeydd cyfagos amdano," meddai.