Lansio gwasanaeth bysiau trydan parhaol cyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
bws
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Casnewydd wedi archebu 14 bws o'r fath

Mae gwasanaeth bws trydan cyntaf Cymru wedi cael ei lansio yng Nghasnewydd er mwyn helpu'r amgylchedd a lleihau tagfeydd yn yr ardal.

Er bod cerbydau o'r fath wedi cael eu treialu yng Nghaerdydd yn y gorffennol, y cynllun hwn yw'r cyntaf i'w sefydlu yn barhaol.

Mae Casnewydd yn un o dri awdurdod lleol sydd wedi derbyn grant er mwyn archebu bysiau trydan.

Yn ogystal â Chasnewydd - sydd wedi archebu 14 bws - mae disgwyl i Gyngor Caerdydd a Chaerffili archebu 36 ac 16 yr un.

Mae disgwyl i'r cerbydau hynny gyrraedd erbyn 2020.

'Cyfle euraidd'

Yn ôl Scott Pearson, rheolwr gyfarwyddwr Trafnidiaeth Casnewydd, mae'r gwasanaeth newydd yn "gyfle euraidd".

"Gan nad yw ffordd liniaru'r M4 yn cael ei hadeiladu, dwi'n meddwl y bydd y bysiau'n cynnig opsiwn arall i bobl, ac os wnawn ni hynny gyda cherbydau trydan byddwn ni'n ticio sawl bocs," meddai.

Nid yw bysiau trydan yn cynhyrchu unrhyw allyriadau, tra bod bysiau sy'n rhedeg ar ddisel yn cynhyrchu carbon deuocsid a nitrogen ocsid.

Disgrifiad o’r llun,

Ar fatri llawn mae'r bws yn gallu teithio hyd at 187 cilomedr

Ond er mwyn dechrau'r cynllun yn gynt na 2020 mae Trafnidiaeth Casnewydd wedi prynu hen fws arddangos am £250,000.

Mae'r bysiau yn costio £340,000 yn newydd, ac mae rhaid cyfnewid y batris bob chwe blynedd am gost o £150,000.

Ond er mwyn delio â'r costau hyn mae Trafnidiaeth Casnewydd wedi dod i gytundeb â chwmni ynni, Zenobe - sy'n berchen ar y batris.

Ar un batri mae'r bysiau yn gallu teithio 187 cilomedr - pellter sy'n fwy na digon ar gyfer diwrnod o deithio, yn ôl Trafnidiaeth Casnewydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn flaenoriaeth, yn ôl Scott Pearson

Mae'r trafod ynglŷn â sut i leihau tagfeydd yn ardal Casnewydd yn parhau ar ôl penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag adeiladu ffordd liniaru'r M4, ond mae Mr Pearson yn credu y gallai'r bysiau gael effaith gadarnhaol.

"Gallwn ni gario hyd at 70-80 o bobl ar fws dau lawr, a dwi'n gobeithio y bydd hyn yn cael effaith ar y tagfeydd," meddai.

"Mae'r llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd, ac mae'n rhaid mynd ati i daclo'r ardaloedd yng Nghasnewydd lle mae safon yr aer yn wael iawn.

"Bydd y cerbydau trydan cyntaf yn teithio drwy un o'r ardaloedd hyn, y llwybr i Gaerllion ag yn ôl, llwybr sydd â thair ardal lle mae safon yr aer yn wael."