CPD Bangor i barhau yn ail haen pyramid pêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
CPD Bangor

Bydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn parhau i chwarae yn ail haen pyramid Cymru y tymor nesaf yn dilyn apêl lwyddiannus.

Roedd posibilrwydd y gallai'r clwb fod wedi disgyn i'r drydedd haen ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) gael y clwb yn euog o dorri rheolau ariannol yn ymwneud â chofrestru chwaraewyr.

Ond cafodd y penderfyniad i dynnu 21 o bwyntiau o'u cyfanswm yn ystod tymor 2018-19 ei wyrdroi gan banel apêl annibynnol.

Cafodd cyhuddiad pellach o ddefnyddio chwaraewr anghymwys hefyd ei wrthod gan y panel.

Golyga'r penderfyniad fod Bangor yn parhau yng Nghynghrair Gogledd Cymru JD.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Dyma benllanw brwydr hir rhyngom ni a'r Gymdeithas Bêl-droed.

"Mae'r achos wedi gorffen o'n plaid ni ac rydyn ni bellach yn edrych 'mlaen ar gyfer y tymor sydd i ddod."

Bydd ymgyrch Bangor yn y gynghrair eleni yn dechrau oddi cartref yn erbyn Conwy Borough ar 24 Awst.