Cyn-filwr yn ailadeiladu caban gafodd ei ddymchwel

  • Cyhoeddwyd
Mike AllenFfynhonnell y llun, Joshua Rhys Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike Allen wedi bod yn gweithio ar y caban newydd ers mis Rhagfyr y llynedd

Mae cyn-filwr wedi ailadeiladu caban pren fel "gofod diogel" i gyn-filwyr eraill sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Roedd Mike Allen, 38, yn arfer byw yn y caban ger Pont-y-cymer yn Sir Caerffili - oedd wedi cael ei adeiladu ganddo heb ganiatâd.

Dywedodd ei fod wedi ei helpu i ddelio gyda chyflwr PTSD.

Ond cafodd y caban ei ddymchwel gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym mis Tachwedd y llynedd am ei fod wedi cael ei adeiladu heb ymgynghori â nhw.

Dywedodd CNC bod swyddogion wedi ymweld â'r safle dair gwaith cyn ei ddymchwel, ac nad oedden nhw'n credu bod unrhyw un yn byw yno.

Ffynhonnell y llun, Joshua Rhys Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r caban newydd wedi'i adeiladu ar dir gafodd ei roi fel rhodd i'r fenter

Ffynhonnell y llun, Joshua Rhys Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r caban wedi'i leoli ym Mynyddislwyn ger Casnewydd

Ond mae'r caban bellach wedi cael ei ailadeiladu, ond y tro yma ym Mynyddislwyn ger Casnewydd.

Fe wnaeth Mr Allen wasanaethu fel milwr yn Afghanistan cyn gadael y fyddin yn 2014.

Ar ôl dychwelyd i Gymru dywedodd ei fod eisiau cilio rhag cymdeithas am ei fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

Dywedodd ei fod wedi "torri fy nghalon" ar ôl darganfod bod ei gaban wedi cael ei ddymchwel.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr hen gaban ei ddymchwel gan Gyfoeth Naturiol Cymru

Mae'r caban newydd ar dir sydd wedi cael ei roi i Mr Allen gan dirfeddiannwr preifat, ac mae modd i gyn-filwyr fynd yno am dawelwch "os ydyn nhw'n cael diwrnod tywyll".

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, ar ôl dymchwel y caban blaenorol, bellach yn gweithio gydag ef ar ei fenter newydd.

Mae Mr Allen hefyd yn gweithio gydag elusennau iechyd meddwl a hyfforddwr personol er mwyn cynnal sesiynau ymarfer corff yn y caban a helpu cyn-filwyr i gael cymwysterau a chyfleoedd gwaith.

"Rydw i'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni," meddai Mr Allen, sydd wedi bod yn gweithio ar y caban newydd ers mis Rhagfyr y llynedd.