Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Huddersfield

  • Cyhoeddwyd
Joe RallsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ergyd Joe Ralls roi Caerdydd ar y blaen ar yr egwyl

Llwyddodd Caerdydd i sicrhau eu hail fuddugoliaeth o'r tymor wedi i gôl hwyr Junior Hoilett drechu Huddersfield.

Fe aeth yr Adar Gleision ar y blaen toc cyn yr egwyl wrth i ergyd Joe Ralls ganfod cornel uchaf y rhwyd ar ôl i'r ymwelwyr fethu â chlirio'r bêl yn y cwrt cosbi.

O fewn pum munud i'r ail hanner roedd hi'n gyfartal, wrth i Trevoh Chalobah guro'r golwr Alex Smithies gydag ergyd isel o bellter.

Ond Caerdydd gafodd y gair olaf, gyda'r eilydd Hoilett rwydo yn y munudau olaf i sicrhau'r tri phwynt.