Y Bencampwriaeth: QPR 1-3 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bersant Celina gafodd gôl gyntaf y gêm
Mae Abertawe wedi codi i'r ail safle yn y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn QPR yn Loftus Road.
Daeth gôl agoriadol yr Elyrch wedi 29 munud wrth i Bersant Celina lwyddo i ddianc yn glir o'r amddiffyn ar ôl cyfnewid pasys gydag Andre Ayew, cyn rhwydo heibio i Joe Lumley.
Fe wnaeth peniad Jordan Hugill ddod â QPR yn gyfartal wedi 66 munud, ond bedwar munud yn ddiweddarach cafodd Abertawe gic o'r smotyn wedi i Yoann Barbet faglu Jordan Garrick.
Rhwydodd Borja Baston o 12 llath i roi'r Elyrch yn ôl ar y blaen - ei bedwerydd gôl y tymor hwn - cyn i'r eilydd Sam Surridge sicrhau'r fuddugoliaeth.