Bag o folltiau trac oedd 'tirlithriad' ar reilffordd
- Cyhoeddwyd
Mae Network Rail wedi cadarnhau mai offer cynnal a chadw, ac nid cerrig mawr o ganlyniad tirlithriad, oedd ar ran o reilffordd Dyffryn Conwy lle bu'n rhaid gohirio gwasanaethau trên dros dro.
Cyhoeddodd y cwmni nos Fercher bod cerrig mawr ar y trac yn atal trenau rhag pasio trwy Dwnnel Blaenau Ffestiniog a bod rhaid gohirio teithiau rhwng y dref a gorsaf Gogledd Llanrwst tan o leiaf fore Gwener.
Yn gynnar bore Iau wedyn dywedodd rheolwyr bod asesiad manwl wedi ei gynnal o'r holl draciau yn y twnnel a'i bod hi'n ddiogel bellach i drenau ailddechrau teithio yn syth.
Ond erbyn hyn maen nhw'n dweud bod dim golwg bod unrhyw greigiau wedi syrthio a bod peirianwyr wedi dod o hyd i fag o folltiau trac.
"Yn dilyn archwiliad o'r twnnel ddoe, fe gadarnhaodd ein peirianwyr bod dim tystiolaeth bod cerrig wedi cwympo," meddai llefarydd ar ran Network Rail.
"Fe ddaethon nhw o hyd i fag yn cynnwys bolltiau trac ar gyfer gwaith cynnal a chadw y gellid fod wedi eu camgymryd fel cerrig.
"Mae gwasanaethau yn ôl i'r drefn arferol, ac rydym yn diolch i gwsmeriaid am fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni archwilio'r twnnel rhag ofn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019