Ffeinal y PRO14 yn dod i Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2020

  • Cyhoeddwyd
Sam WarburtonFfynhonnell y llun, PRO14
Disgrifiad o’r llun,

Y brodor o Gaerdydd - a chyn-gapten Cymru a'r Gleision - Sam Warburton wnaeth ddatgelu'r lleoliad

Bydd Caerdydd yn cynnal rownd derfynol y PRO14 am y tro cyntaf yn 2020.

Stadiwm Dinas Caerdydd, sy'n dal 33,280 o bobl, fydd yn llwyfannu'r ffeinal ar 20 Mehefin - y tro cyntaf i Gymru gynnal y digwyddiad ers newid fformat y gynghrair.

Y Gweilch, Scarlets, Y Dreigiau a Gleision Caerdydd yw'r pedwar rhanbarth o Gymru yn y gystadleuaeth, sydd hefyd yn cynnwys timau o Iwerddon, Yr Eidal, Yr Alban a De Affrica.

Ers 2015, mae'r rownd derfynol wedi digwydd mewn lleoliad o ddewis trefnwyr y gynghrair.

Sam Warburton - brodor o Gaerdydd a chyn-gapten Cymru, Y Llewod a'r Gleision - wnaeth ddatgelu'r lleoliad ddydd Iau.

Bydd y tymor newydd yn dechrau ar 27 Medi, gyda thocynnau i'r rownd derfynol yn mynd ar werth ar 26 Awst.