Hanner canrif ers 'ergyd drom' cau Chwarel Dinorwig

  • Cyhoeddwyd
Chwarel Dinorwig

Mae'n union hanner can mlynedd ers cau un o chwareli llechi mwya'r byd am y tro olaf.

Yn ei anterth roedd Chwarel Dinorwig, ar y llethrau uwchben pentref Llanberis, yn cyflogi dros 3,000 o weithwyr, ac yn rhan annatod o'r gymdeithas.

Roedd yn ergyd drom i'r ardal pan ddaeth y cyfan i ben yno ar 22 Awst, 1969.

Gwerthwyd y chwarel am lai nag £20,000, ac mae'r gweithdai erbyn hyn yn gartref i'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol ers 1972.

Disgrifiad,

Cofio Chwarel Dinorwig 50 mlynedd ers ei gau

Doedd pethau heb fod yn dda yn y chwarel am rai blynyddoedd cyn iddo gau am sawl rheswm:

  • Doedd dim cymaint o alw am lechi ym Mhrydain;

  • Roedd llechi Cymru'n ddrud o'u cymharu â theils a llechi o dramor;

  • Roedd y llechfaen oedd yn hawdd ei gyrraedd wedi ei gloddio i gyd erbyn y 1960au, ac roedd rhaid gwario i ddatblygu ymhellach; ac

  • Erbyn y 1960au roedd y chwarel yn dibynnu'n llwyr ar archebion o Ffrainc, a daeth y rheiny i ben yn 1969.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y chwarel ddylanwad sylweddol ar y gymuned leol, medd Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol

"Yn ei hoes aur roedd hi'n cyflogi 3,000 o ddynion, ac mi oedd bron pob bachgen yn yr ardal yma yn mynd i weithio yn Chwarel Dinorwig rhwng 1840 a 1930," meddai Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa Lechi.

"Erbyn iddi gau roedd 350 yn gweithio yno, ond roedd y ffaith bod y chwarel fwyaf yn y byd, ar un adeg, yn cau, yn rhywbeth gafodd ddylanwad sylweddol ar y gymdeithas, a oedd hyd at hynny wedi cymryd yn ganiataol y byddai'r chwarel a'i chyflogaeth a'i gwerthoedd a'i diwylliant, yn para am byth."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arnold Lloyd Jones ond yn 15 oed wrth ddechrau gweithio yn y chwarel

Aeth Arnold Lloyd Jones i weithio yno yn 15 oed, ac fel arlunydd uchel ei barch, mae'n dal i fynd am dro yno bob hyn a hyn.

Ond mae o hefyd yn cofio bod ochr dywyll i'r diwydiant, gan gynnwys afiechyd yr ysgyfaint - silicosis - oedd yn cael ei achosi gan lwch y llechi, a gwelodd ei effaith ar iechyd nifer o'i gydweithwyr.

"Mae'r oes wedi newid yn ofnadwy yn y 30 mlynedd dwytha ac mae twristiaeth wedi cymryd drosodd yno rwan," meddai.

"Ond o leiaf mae'r gwaith yn lanach rwan."

Disgrifiad o’r llun,

Seindorf Arian Deiniolen yn ymarfer

Seindorf Arian Deiniolen oedd band y chwarel, ac mae'n dal i fynd o nerth i nerth 180 o flynyddoedd ers ei sefydlu.

Mae Dafydd Evans yn aelod ers degawdau.

"Mae gynnon ni ferch leol [Lois Eifion], sydd wedi codi o'r band iau i'r band llawn, a rŵan mae hi'n arwain y band ac rydan ni wedi cyrraedd y safon gorau posib.

"Dwi'n aelod ers 1957 a'r band presennol ydi'r gorau dwi'n ei gofio yma erioed."