Canolfan Dyfi Bike Park yn agor ger Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Dyfi Bike ParkFfynhonnell y llun, Dyfi Bike Park
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar llwybr Dyfi Bike Park oll yn disgyn o gopa mynydd Tarren y Gesail

Bydd canolfan beicio mynydd newydd ger Machynlleth yn agor yn swyddogol ddydd Gwener.

Mae Dyfi Bike Park ym Mhantperthog yn cynnig pedwar llwybr - a'r cyfan yn disgyn o gopa mynydd Tarren y Gesail.

Dau frawd - Dan a Gee Atherton - a'u chwaer, Rachel, sydd y tu ôl i'r fenter.

Mae'r tri yn enwau adnabyddus ym myd beicio mynydd, gydag wyth Pencampwriaeth y Byd a 49 buddugoliaeth Cwpan y Byd rhyngddynt.

Roedd y safle 650 erw yn arfer cael ei ddefnyddio fel man ymarfer i'r teulu, cyn iddyn nhw benderfynu bod ganddo'r potensial i gael ei droi'n atyniad ar gyfer yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Dyfi Bike Park
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Athoerton wedi ennill Pencampwriaeth Beicio Mynydd y Byd ar bum achlysur

Llwyddon nhw i sicrhau benthyciad £2m er mwyn gwireddu eu breuddwyd.

Dywedodd Rachel cyn yr agoriad: "Mae'n anhygoel cymaint o awydd sydd wedi bod i ddod yma - rydyn ni wrth ein boddau!

"Ni fyddwn ni wedi gallu cyflawni dim ohono heb gefnogaeth y gymuned wych yma, sydd wedi'n croesawu gyda breichiau agored.

"Megis dechrau ydyn ni - mae cymaint o botensial yma."