Pont newydd yn ei lle yn yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne
- Cyhoeddwyd
![Pont](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5993/production/_108413922_pontbotaneg.jpg)
Mae'r bont sy'n rhan o'r prosiect £7m bellach yn ei le
Mae gwaith o adeiladu pont newydd yng Ngardd Fotaneg Cymru wedi'i gwblhau.
Mae'r bont yn rhan o brosiect gwerth £7m i adfer rhai o henebion yr ardd ar y safle.
Mae'r Ardd Fotaneg wedi'i lleoli ar hen stad Middleton yn Llanarthne, Sir Gâr sy'n dyddio'n ôl 400 mlynedd.
Ar ddechrau'r 1800au fe wnaeth perchennog y stad, Syr William Paxton gomisiynu dylunwyr i greu parc llawn nodweddion dŵr a llynnoedd.
Erbyn 1934 roedd y llynnoedd wedi'u gwagio.
Yn 2017 fe dderbyniodd yr ardd arian gan gronfa'r Loteri a phartneriaid eraill gwerth £7.2m.
![Helen John](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A7B3/production/_108413924_helenjohn.jpg)
Helen John yw rheolwr y prosiect
Wedi'r holl ddylunio a chynllunio, mae'r llynnoedd yn cael eu hadfer ac mae argae newydd wedi'i adeiladu.
Y bont newydd yw'r nodwedd ddiweddaraf i gael ei chynnwys fel rhan o'r prosiect.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Helen John: "Rwy'n gyffrous iawn am y prosiect yma, ar ôl gweithio mewn tywydd amrywiol, rydym yn gweld pethau'n dod i siâp.
"Y bont yw'r pishyn mwyaf o'r jig-so."
Ychwanegodd pennaeth y datblygiad, Rob Thomas mai'r bont yw "moment bwysicaf" y prosiect.
"Mae'n golygu fod ymwelwyr nawr yn gallu ymweld ag 80% o'r safle - llefydd nad oedd modd iddyn nhw gyrraedd yn y gorffennol," meddai.
"Mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu gwneud pethau cyffrous iawn gyda'r dirwedd fydd yn agor yn y gwanwyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2016