Uned drochi iaith yn newid byd

  • Cyhoeddwyd
Non ScottFfynhonnell y llun, Non Scott

"Mae hunaniaeth hollol wahanol gan bobl sy'n gallu siarad Cymraeg. Dw i'n rhan o gymuned hollol wahanol."

Mae'r cyfle i berthyn i'r gymuned hynny o siaradwyr Cymraeg wedi digwydd i Non Scott o Gaerdydd oherwydd ei hamser mewn uned drochi iaith.

Mae unedau trochi iaith ar gael ar draws Cymru i blant sy'n symud o addysg gyfrwng Saesneg i addysg gyfrwng Cymraeg a bydd nifer yn profi eu tymor cyntaf mewn addysg Gymraeg pan fydd y flwyddyn ysgol newydd yn cychwyn ym mis Medi.

Cychwynnodd Non yn yr uned drochi yn Ysgol Melin Gruffydd ar ddiwedd blwyddyn 6 pan oedd hi'n 11 oed, ar ôl mynychu ysgol gynradd Saesneg.

Cyn yr uned drochi doedd hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl.

Adnabod yr iaith

Dywedodd Non, sy'n 18 oed ac ar fin mynd i'r brifysgol yn Birmingham: "Bydden i ddim wedi gallu siarad Cymraeg na mynd i ysgol Gymraeg heb yr uned drochi.

"'Does neb ond fy mrodyr yn siarad Cymraeg yn fy nheulu.

"Yn yr uned drochi 'oedd gemau, caneuon, geirfa a thrafodaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. O'n i'n 'neud popeth fyddwn i'n gwneud mewn ysgol arferol trwy'r iaith Gymraeg.

"Roedd e i gyd yn digwydd yn raddol - doedd dim llawer o bwysau, yn enwedig ar y dechrau. 'Oedd e mwy am ddod i adnabod yr iaith yn hytrach na dysgu pob gair."

Yn gyffredinol mae'n cymryd tua tymor mewn uned drochi i blentyn i fod yn rhugl yn yr iaith. Yn aml mae'r plant yn yr uned wedi symud i Gymru o wlad arall ac yn cynnwys plant sy' wedi'u mabwysiadu neu gyda gofalwyr maeth.

Ffynhonnell y llun, Non Scott
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Non nifer o brofiadau yn Ysgol Glantaf na fyddai hi wedi eu cael heb ddysgu Cymraeg - dyma Non a'i chyfaill Ellie yn ennill gwobr 'Sherlock a Holmes' yn eu dosbarth Hanes!

Dywedodd Non: "Pan ddechreuais i yn Ysgol Glantaf o'n i'n deall beth oedd pobl yn dweud oherwydd yr uned drochi ac roedd athrawes yn dod i helpu fi er mwyn sicrhau fod fy iaith yn ddigon da i allu gael addysg yn y Gymraeg.

"Erbyn diwedd blwyddyn 6 o'n i'n nerfus i fynd i flwyddyn 7 lle oedd pawb yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl a fi ddim o'r un safon. Ond erbyn canol blwyddyn 7 o'n i'n iawn ac yn teimlo'n hyderus - oedd e jest wedi clicio."

Perthyn i gymuned

Erbyn hyn mae Non yn rhugl ac yn credu'n gryf fod hyn oherwydd ei hamser yn yr uned drochi.

"Pan dw i'n mynd mas yn y nos ac yn 'nabod pobl sy'n gallu siarad yr iaith, dw i'n gallu siarad yn Gymraeg.

"Mae fel bod yn rhan o gymuned ac yn fwy o ran o Gymru. Dw i'n meddwl fod pawb yn gallu bod yn rhan o Gymru ond dw i'n hoffi bod yn gallu siarad Cymraeg.

"Os oes rhywun yn dod mewn i'r caffi lle dw i'n gweithio sy'n gallu siarad Cymraeg, dw i'n gallu cyfathrebu gyda nhw.

"Mae'n gysylltiad rhwng chi a phawb arall ac mae'n rhywbeth i drafod os chi'n cyfarfod rhywun sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae'n brofiad unigryw rhyngddo chi.

"Bydd hi'n lot haws i gael swydd yng Nghymru. Mae Ysgol Glantaf wedi bod yn wych a fyddwn i ddim wedi cael y math 'na o addysg heb yr uned drochi."

Bitesize: Ydy hi'n rhy hwyr i ddysgu? Gwybodaeth am unedau trochi iaith.

Disgrifiad,

Bywyd mewn un uned trochi iaith yng Nghaerdydd

Hefyd o ddiddordeb