"Mae bywyd yn well i mi nawr - dwi'n gwybod pwy ydw i"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r term non-binary yn air sy'n dod yn fwy cyfarwydd i ni yn ddiweddar. Y gair Cymraeg yw aneuaidd, ond beth yn union yw hyn?

Dyw person aneuaidd ddim yn uniaethu ag un rhywedd (gender) penodol. Gallan nhw deimlo nad ydyn nhw'n ddyn nac yn ddynes, neu efallai eu bod yn uniaethu â'r ddau rywedd.

Mae Rhi Kemp-Davies yn berson aneuaidd, ac wedi bod yn trafod hyn ar bodlediad Lisa Angharad, Siarad Secs.

Ffynhonnell y llun, Rhi Kemp-Davies

Mae Rhi eisiau cael eu galw yn 'nhw', yn hytrach na 'hi' neu 'fe', gan nad yw'r rhagenw hwnnw yn wrywaidd nac yn fenywaidd.

Mae iaith yn bwysig iawn wrth drafod hunaniaeth rhywedd, fel yr eglura Rhi. Dim ond tua tair blynedd yn ôl y daeth Rhi i wybod am y term 'non-binary', ac ar ôl blynyddoedd o deimlo'n wahanol, ond ddim yn hollol siŵr pam, dechreuodd popeth, o'r diwedd, wneud synnwyr:

"The penny dropped - 'nath popeth 'neud sens.

"Pan o'n i'n iau, o'dd gen i ddiddordeb mewn merched a bechgyn. Ond pan o'n i'n 17, o'dd gen i boyfriend, ac o'n i rili ddim isho ca'l rhyw 'da fe...

"Cwympes i mewn cariad 'da merch, ac o'dd hynny'n teimlo'n iawn. Ond o'dd gen i dal ddiddordeb mewn dynion.

"Nawr dwi'n gwybod ei fod e achos dwi ishe bod mwy fel dyn.

"Dyna bwysigrwydd iaith. Os fyse'r gair non-binary o gwmpas pan o'n i'n ifanc, bydde fe wedi helpu fi lot. Ond do'dd dim lot o opsiyne 'da fi, so 'nes i roi fy hun yn y bocs mwya' addas, sef lesbiad."

Mae'r term aneuaidd yn derm eang, ac mae yna lawer o ffyrdd gwahanol y gall person ddisgrifio ei hun.

"Os yw dyn ar un ochr y sbectrwm, a menyw yr ochr arall, mae yna lot o ofodau gwahanol yn y canol.

"Mae non-binary yn un term sydd yn disgrifio pobl o'r holl hunaniaethau rhywedd gwahanol, ac mae'n wahanol i wahanol bobl.

"Dwi'n ystyried fy hun yn non-binary man in a woman's body.

"O ddewis, byddwn i wedi cael fy ngeni fel dyn, ond byddwn i dal yn teimlo'n aneuaidd. Does gen i ddim un rhywedd, ond dwi ar ochr wrywaidd y sbectrwm."

Ffynhonnell y llun, Rhi Kemp-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhi a'u gwraig wedi bod gyda'i gilydd ers naw mlynedd, cyn i Rhi sylweddoli eu bod yn aneuaidd

Wrth gwrs, dyw rhywedd ddim yn effeithio ar rywioldeb, sef pwy ydych chi'n eu ffansio, ac i Rhi, dydi hynny ddim wedi newid.

"Dwi wedi bod gyda ngwraig ers naw mlynedd, felly pan nes i gwrdd â hi, do'n i ddim yn gwybod beth oedd non-binary.

"O'dd gen i struggles bryd hynny, ond doedd hi ddim yn ymwybodol o hyn, ac roedd hynny oherwydd mod i ddim yn deall y peth fy hun. Roedd gen i ofn eu rhannu â hi, yn enwedig achos doedd gen i ddim yr iaith i esbonio iddi.

"Ond nes i ddod mas iddi hi rhyw ddwy flynedd yn ôl, ac mae hi'n gefnogol iawn. Mae 'na bach o struggle weithie, ond 'dy ni'n caru ein gilydd."

Mae Rhi yn cydnabod fod ei sefyllfa, a sefyllfa pobl aneuaidd eraill, yn rhywbeth sydd efallai am gymryd dipyn i rai pobl ei ddeall, a dod i arfer ag ef.

"Os oes rhywun yn cyfarfod rhywun aneuaidd, dau beth sydd angen ei wneud - gofyn iddyn nhw beth yw eu rhagenwau, a dweud wrthon nhw am eich cywiro os ydych chi'n ei gael yn anghywir.

"Mae'n cymryd lot o amser i bobl newid habit.

"Mae lot o bobl o gwmpas fi yn rhoi lot o ymdrech fewn i newid rhagenwau amdanaf i, er mae rhai yn meddwl 'o dydi hynny ddim yn gwneud synnwyr i fi, felly 'na i ddim 'neud e'.

"Achos fod gen i gymuned gender queer anhygoel o fy nghwmpas, pan ti'n camu tu fas i hynny, ti'n gweld fod pawb ddim fel yna.

"Ond mae gen i'r hyder i gywiro pobl, felly mae'n helpu, er mae'n anodd weithiau.

"Mae angen i bobl eraill addasu, ond mae'n rhaid i mi gael amynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhi yn addysgu Lisa ar y podlediad Siarad Secs am sut beth yw hi i fod yn berson aneuaidd

Heblaw am bobl sydd ddim yn trio deall, beth yw'r heriau eraill mae Rhi yn eu hwynebu?

"Dwi'n teimlo braidd yn anweledig weithiau.

"Mae'n anodd pan dwi'n gorfod dewis teitl fel Mr, Mrs, Miss ayyb ar ffurflen, neu pan does yna ddim opsiwn 'Other' ar basport, dim ond 'Male' neu 'Female'. A dwi'n anghyfforddus yn mynd i dai bach menywod.

"Ond dwi'n teimlo shifft mawr iawn. Dwi'n hyfforddi lot o bobl mewn prifysgolion i ymlacio mwy efo pobl sydd ddim yn ddyn neu fenyw, ac mae wir rhaid i bobl dros 25 oed ddal lan gyda'r iaith.

"Mewn 50 mlynedd fydd yr iaith o gwmpas rhywedd yn fwy cymhleth. Mae'n teimlo fod rhywbeth anhygoel yn dechre.

"Ac mae bywyd yn well i mi nawr - dwi'n gwybod pwy ydw i."

Hefyd o ddiddordeb: