Pam ein bod ni ofn 'siarad secs'?
- Cyhoeddwyd
Yn y podlediad newydd, Siarad Secs, mae'r cyflwynydd Lisa Angharad yn siarad am bwnc mae rhai pobl yn anghyfforddus yn ei drafod - rhyw.
Yn y bennod gyntaf, mae'n cael sgwrs agored â'r actores Carys Eleri, a'r myfyriwr nyrsio iechyd meddwl, John Vale, am libido, apiau dêtio a chael eich cywilyddio am eich arferion rhyw.
Ond pam fod sgwrs fel yma mor anarferol? Pam fod rhyw yn bwnc mor anodd i'w drafod?
Mewn blog graffig a di-flewyn-ar-dafod i Cymru Fyw, Lisa Angharad sy'n beirniadu'r diffyg addysg yn ein hysgolion, a'r angen am chwyldro yn y modd rydyn ni'n mynd ati i drafod rhyw.
'Ofn siarad'
Secs, neu addysg secs, yw beth sy' wedi arwain fi i 'sgwennu'r blog 'ma.
Ges i gynnig bod yn rhan o daith fer 'da 'Hacio' o amgylch chweched dosbarth ysgolion uwchradd Cymru. A heb 'neud môr a mynydd o'r peth, ges i'n syfrdanu 'da pa mor wael yw addysg rhyw Cymru - ac o'n i'n grac.
Ma' fe'n gwbl amlwg ein bod ni'n ofn trwy'n twll tin i siarad am y peth. O'r plant i'r athrawon, i'r gwleidyddion i'r cyfryngau, does neb yn gw'bod lle i ddechre... felly fi'n mynd i ddechre.
Beth am ddechre 'da'r pethe ni'n gwbod. Alla'i ddweud yn gyfforddus bod 99.9% o'r bobl sy'n darllen hwn nawr wedi cael, neu yn mynd i gael secs rhywbryd yn eu bywyde - hyd yn oed os yw e ond unwaith - felly pam ar y ddaear las nagyn ni'n siarad amdano fe?
Ma' addysg mor bwysig yn y wlad 'ma dyddie hyn - ma' gwleidyddion yn dweud byth a beunydd bo' plant fel spwng.
Maen nhw'n mynnu bo' plant yn dysgu am sut adeiladodd Hitler ffyrdd anhygoel o syth drwy'r Almaen, bo'r Exodus yn honni os y'ch chi'n gweithio, torri'ch gwinedd, neu'n hoovero ar ddydd Sul y byddwch yn marw… a sut i ofyn "pa ffordd i'r swyddfa bost" yn Ffrangeg.
Ond eto, ar hyn o bryd, ma' addysg rhyw yn cynnwys geirie gwyddonol am periods pan chi'n 10 oed a wedyn scaremongering am feichiogrwydd ac STIs pan chi'n 16.
A 'na fe, Amen bocs pren. Addysg rhyw - check!
'Anghyfforddus'
Y peth 'nath daro fi oedd pa mor chwerthinllyd o'dd y disgyblion yn ffindo'r addysg hefyd ac, ar y cyfan, 'odd eu hagwedd nhw gyment yn fwy aeddfed na'r athrawon.
Dim beirniadaeth o'r athrawon yw 'na, dweud ydw i fod angen polisi trylwyr o sut i drin a thrafod rhyw gyda disgyblion, oherwydd - o be' o'n i'n gweld - ma'r athrawon yn ffindo'r holl beth mor anghyfforddus â'r plant a 'sdim un ohonyn nhw'n siŵr iawn beth ma' nhw'n 'cael' dweud.
Petai Sali Mali yn gofyn i Jac y Jwc dynnu llun ohoni yn sefyll yn noeth yn dal darn o roli poli jam a'i bod hi'n ei anfon ato, a wedyn bo' Jac y Jwc yn dangos i Pry Bach Tew a bo' fe'n anfon y llun at Golwg, wrth pwy ddyle Sali Mali ddweud?
Bydde hwnna yn broblem alle hi drafod 'da athro? Neu dyle hi gadw'n dawel a delio 'da'r broblem ei hunan? Bydde athro yn gwneud yn anghywir petai hi neu fe yn ymyrryd?
Technoleg wedi newid pethau...
Ma' rhyw gyment yn fwy cymhleth nawr nag oedd e pan o'n i yn yr ysgol. Os bydden i ishe dangos fy myrgyr nips i rywun bydde rhaid i fi safio er mwyn prynu disposable camera wedyn ca'l ffrind i dynnu eu llun nhw, gan obeithio i'r nefoedd bo fe'n lun 'itha reit, gofyn am 90 ceiniog er mwyn ca'l y bws i dre' i fynd i Savers i brinto'r ffilm gyfan a wedyn prynu stamp i bostio'r llun i'r diawl lwcus.
Heddi, ma' bŵbs a ceillie un clic i ffwrdd 24 awr y dydd.
Ma' angen i addysg rhyw Cymru ddala lan 'da thechnoleg, a ma' ishe fe ddigwydd yn eitha blydi cloi.
Ma' prosiect gyda'r heddlu o'r enw School Beat a fel rhan o'r prosiect ma' plant blwyddyn 9 yn ca'l gwers am secstio gan blismon lleol - sy'n wych - ond be' sy'n digwydd wedi i'r plismon adael? Oes athro penodedig y gall y plant fynd i siarad â nhw am y peth wedi'r sgwrs?
Fi'n gweld e'n wyllt bo' heddlu Cymru yn gweld yn glir bod angen addysgu'r plant am beryglon secstio ond bod ysgolion yn dal i esgus nad yw'r fath beth yn bodoli!
Pam na allwn ni yng Nghymru arwain y ffordd gydag addysg rhyw a dangos i weddill y Deyrnas Unedig nad y' ni mor gul â nhw? Pam na ddysgwn ni oddi wrth bolisïau Sweden, gwlad sy'n dechre addysg ryw deche mor gynnar â phum mlwydd oed?
Yn Sweden, ma' nhw'n dysgu am sut ma' corff bachgen yn wahanol i gorff merch, a sut bod ambell i ddarn o'r corff yn ymateb yn wahanol i bethe gwahanol a sut i barchu sut ma' pob person yn ymateb yn wahanol.
Hanfodol
Fi'n mynd i 'weud rh'wbeth gwyllt, credwch neu beidio, ma' 'da pob merch yng Nghymru glitoris! Hyd yn oed enillwyr adrodd ysgrythur dan 16, hyd yn oed y ferch sy'n chware Mair bob blwyddyn yn yr Ysgol Sul - oedd 'da hyd yn oed Nia Ben Blydi Aur un!
Ond eto, dal i fod hyd heddi, pan ma' modd i chi anfon llun o'ch clitoris i 90% o'r bobl chi 'rioed 'di cwrdd, does dim sôn amdano fe mewn addysg rhyw!
Efallai 'se nhw'n dysgu merched a bechgyn am y clitoris, ac am y ffaith taw dyna lle ma' rhan fwya' - os nad pob merch - yn ca'l orgasm, a bo' fe mor hawdd a mor saff i'w wneud, efallai fydde merched yn llai awyddus i gal penetration cyn gynted ag y gallen nhw? Ag efallai, jyst efallai, bydde canran beichiogrwydd merched yn eu harddegau yn lleihau, a phleser yn cynyddu?!
Neu falle dyle ni gario 'mlan i esgus i bawb nad yw'r clitoris yn bodoli a chario 'mlan i ddangos llunie o'r achos mwya' afiach o warts allwn ni ffindo? Falle nad yw'r gwleidyddion addysg 'di ffindo mas amdano eto… ma' gyment o hwyl o'u blaene nhw!
Felly, yw rhyw yn emosiynol, yn gymhleth, yn boenus, yn rhan annatod o fywyd dynol ryw? Ai lle ysgolion yw gwneud yn siŵr fod plant yn dysgu sut i fyw bywyd hapus, llawn gwybodaeth, dealltwriaeth a pharch?
Os yw'r uchod yn wir, onid yw dysgu am secs yn ddim byd llai na HANFODOL?!
(Cyhoeddwyd y darn yma gyntaf ym mis Mai 2016)
Hefyd o ddiddordeb:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2015