Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-0 Birmingham

  • Cyhoeddwyd
Borja BastonFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Borja Baston trydedd gôl Abertawe o'r smotyn

Mae Abertawe'n gyfartal ar bwyntiau gyda Leeds sydd ar frig y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Birmingham brynhawn Sul.

Daeth Yan Dhanda yn agos at sgorio i'r Elyrch yn gynnar yn y gêm ond fe beniodd Kristian Pedersen ei ergyd oddi ar y llinell.

Chafodd Birmingham ddim lawer o lwc o flaen y gôl yn yr hanner cyntaf gydag Abertawe yn llwyr reoli'r meddiant.

Daeth gôl gyntaf y gêm gan yr eilydd Kyle Naughton wedi 63 munud gydag ergyd o du allan y cwrt cosbi.

Pum munud yn ddiweddarach roedd yr Elyrch wedi dyblu ei mantais diolch i gôl gan Bersant Celina.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwr Abertawe, Steve Cooper yn gwenu ar ddiwedd y gêm

Wedi gwaith da gan Van der Hoorn, roedd Celina yn rhydd ar yr ochr chwith ac roedd ei ergyd yn rhu bwerus i Lee Camp yn y gôl i Birmingham.

Gydag Abertawe yn rheoli'r gêm yn llwyr, death y drydedd gôl o'r smotyn.

Fe faglodd Marc Roberts ymosodwr Abertawe, Yan Dhanda yn y cwrt, ac ar ei ben-blwydd fe sgoriodd Borja Baston i sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm Steve Cooper.

Dyw Abertawe heb golli gartref ers 14 gêm a dyma ei rhediad gorau ers tymor 1999-2000.

Mae Abertawe yn ail yn y tabl, ond yn gyfartal ar 13 pwynt gyda Leeds sydd ar y brig ar wahaniaeth goliau.

Bydd Abertawe yn teithio i Leeds y penwythnos nesaf yn y Bencampwriaeth.