Dyn 23 oed o'r Rhyl wedi marw tra ar wyliau yn Tenerife
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 23 oed o'r Rhyl wedi marw tra ar wyliau gyda ffrindiau yn Tenerife.
Bu farw Michael Lewis, oedd hefyd yn cael ei nabod fel Liam Boland, mewn ysbyty ddydd Iau.
Dywedodd heddlu yn Tenerife nad oedden nhw'n gallu rhoi sylw ar adroddiadau fod rhywun wedi ymosod arno ddydd Mawrth.
Dywed llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor fod "staff yn cefnogi teulu dyn o Brydain wedi ei farwolaeth yn Tenerife" ac "yn cydweithio â heddlu Sbaen".
Mae ffrindiau, sy'n dweud nad oedd ganddo yswiriant teithio, wedi creu tudalen ariannu torfol i gludo ei gorff yn ôl i Brydain.
Maen nhw hefyd yn gobeithio codi digon o arian ar gyfer angladd a chostau triniaeth feddygol.
'Person arbennig iawn'
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl a Choleg Llandrillo, roedd Mr Lewis wedi symud i Lundain lle bu'n gweithio i gwmni adeiladu.
Roedd yn aros mewn gwesty yn Adeje cyn iddo farw.
Mewn teyrnged ar Facebook, dywedodd ei fodryb, Karen Hughes ei fod "yn berson arbennig iawn i lawer o bobl" a'i fod "wedi ei gymryd yn greulon oddi wrth ei deulu a'i ffrindiau".
Ychwanegodd: "Roedd yn rhy ifanc a diniwed i'n gadael yn y ffordd yma."