Hedfan person i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad ar yr A470

  • Cyhoeddwyd
A470Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 ger pentref Tal-y-cafn

Mae person wedi cael ei hedfan i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 yn Sir Conwy ddydd Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng dau gar ger Gerddi Bodnant am 18:30.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân ac achub dorri un person allan o'u cerbyd wedi iddyn nhw fynd yn sownd ynddo yn dilyn y digwyddiad yn Nhal-y-cafn.

Mae un person wedi cael ei hedfan i'r ysbyty yn Stoke, tra bod dau arall wedi'u cludo mewn ambiwlans i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod pedwerydd person wedi dioddef mân anafiadau, ac maen nhw'n apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â fideo dash-cam o'r digwyddiad i gysylltu â'r llu.